Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch Llosgiadau a Sgaldiadau ar gyfer Babanod

Mae mwy o risg i fabanod a phlant bach gael anaf o ganlyniad i losgi neu sgaldio gan fod eu croen yn llawer teneuach a thyner o’i gymharu â chroen oedolion. Bydd angen i chi gymryd gofal arbennig i atal y mathau hyn o ddamweiniau rhag digwydd i'ch babi. 

Lleihau'r risg o losgiadau a sgaldiadau

  • Cadwch ddiodydd poeth oddi wrth eich babi. Rhowch ddiodydd poeth mewn llefydd diogel lle na all eich babi eu cyrraedd neu eu tynnu i lawr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi eich diodydd poeth i lawr mewn man diogel cyn i chi godi a dal eich babi. 
  • Cadwch eich sythwyr gwallt neu ffyn cyrlio allan o gyrraedd tra byddant yn oeri. Mae risg y gallai eich babi gydio a thynnu'r wifren a dyna pam ei bod yn bwysig cadw unrhyw beryglon ymhell o'r ffordd. 
  • Wrth roi bath i'ch babi, profwch dymheredd y dŵr gyda'ch penelin cyn i chi roi eich babi yn y dŵr. 
  • Os ydych chi'n coginio, ceisiwch ddefnyddio'r cylchoedd yng nghefn y popty a throi dolenni'r sosban i wynebu cefn y popty, fel nad oes modd cydio ynddynt. Ceisiwch gadw'ch babi draw o'r popty neu allan o'r gegin pan fyddwch chi'n coginio.

Mae rhagor o wybodaeth am gadw'ch babi'n ddiogel rhag llosgiadau a sgaldiadau ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Ymhlith Plant.

Trin llosgiadau a sgaldiadau

Mae llawer o losgiadau a sgaldiadau difrifol yn effeithio ar fabanod a phlant ifanc. Dylech atal y broses losgi cyn gynted â phosibl. Gweler GIG 111 Cymru am wybodaeth a chyngor am drin llosgiadau

Gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau