Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch Dŵr ar gyfer Babanod

Mae cyflwyno’ch babi i ddŵr yn amser cyffrous ond mae’n bwysig eich bod yn hynod ofalus i’w gadw’n ddiogel o amgylch dŵr. 

Golchi a rhoi bath i'ch babi

Nid oes angen i chi olchi'ch babi bob dydd, efallai y byddai'n well gennych chi olchi ei wyneb, ei wddf, ei ddwylo a'i ben ôl yn ofalus yn lle hynny. 

Rydym yn eich cynghori i beidio ag ymolchi eich babi yn syth ar ôl bwydo, neu pan fydd yn llwglyd, neu wedi blino. 

Bydd angen i chi aros gyda'ch babi drwy gydol yr amser y mae yn y dŵr.

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol a phethau i’w hystyried wrth roi bath i’ch babi:

  • Gwnewch yn siŵr bod yr ystafell rydych chi'n ymolchi ynddi yn gynnes.
  • Sicrhewch fod gennych bopeth sydd ei angen arnoch yn barod gan gynnwys bath babi neu bowlen golchi llestri lân wedi'i llenwi â dŵr cynnes, dau dywel, clwt glân, dillad glân a gwlân cotwm.
  • Dylai tymheredd y dŵr fod yn gynnes. Gwiriwch y tymheredd gyda'ch arddwrn neu'ch penelin cyn rhoi bath i'ch babi. 
  • Cadwch ben eich babi yn glir o'r dŵr. Defnyddiwch y llaw arall i roi'r dŵr yn ysgafn dros eich babi. 
  • Ni ddylid defnyddio seddi bath babanod gan fod risg y gallai eich babi lithro allan o’r sedd. Mae’n bwysig eich bod yn eu cynnal a’u dal bob amser os ydych yn dewis defnyddio sedd babi. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gyngor diogelwch seddi bath ar wefan Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant.  

Gweler gwefan GIG 111 Cymru am ragor o wybodaeth am ymolchi eich babi yn ddiogel.

Aros yn ddiogel o amgylch dŵr pan fyddwch chi allan

Mae’n beryglus gadael babanod a phlant ifanc heb oruchwyliaeth hyd yn oed am gyfnod byr, a hyd yn oed yn y dyfroedd basaf. Gweler gwefan Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Ymhlith Plant am ragor o wybodaeth am ddiogelwch dŵr yn yr ardd ac ar y traeth. 

Gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau