Neidio i'r prif gynnwy

Faint o fwyd dylech chi roi i'ch babi

Bwriad y bwydydd cyntaf yw helpu eich babi i ddarganfod a datblygu awydd am fwydydd a blasau newydd. Bydd pob babi yn wahanol; bydd rhai yn mwynhau bwyd o'r dechrau ac yn helpu eu hunain i fwyd yn syth.

  • Efallai y bydd rhai yn gallu bwyta sawl llwyaid o fwyd newydd yn syth.
  • Bydd rhai yn cymryd mwy o amser i ddod i arfer â blasau newydd.
  • Cynigiwch ychydig bach o fwyd cyn rhoi llaeth wrth fwydo eich babi.
  • Gellir cynyddu’r bwyd a roddir yn raddol yn ystod yr wythnosau cyntaf.

Mae’n bwysig peidio â phoeni am faint o fwyd sy’n cael ei fwyta yn y cyfnod yma oherwydd:

  • Bydd llanast
  • Bydd faint o fwyd mae eich plentyn yn ei fwyta o ddydd i ddydd yn amrywio ac felly hefyd yr archwaeth am wahanol fwydydd
  • Byddwch yn hyderus fod eich babi yn bwyta’r hyn sydd ei angen arno, a cheisiwch sefydlu patrwm prydau rheolaidd.
  • Rhowch brydau neu fyrbrydau yn gyson, bob 2 - 3 awr erbyn i'ch babi gyrraedd 12 mis oed.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar fwydo eich babi ar gael ar wefan y Gymdeithas Dieteteg Brydeinig – The British Dietetic Association – Cychwyn bwydo’ch babi| British Dietetic Association (BDA).

6 mis oed ac ymlaen

Ar ôl tua 6 mis, mae llai o ffocws ar faint o fwyd a fwyteir ac yn hytrach ceir cyfle i gyflwyno blasau a mathau newydd o fwyd. Ceisiwch ddarparu amrywiaeth dda o flasau er mwyn helpu eich babi i dderbyn bwydydd newydd wrth iddynt dyfu’n hŷn.

Cyflwynwch fwydydd syml heb eu prosesu gan gynnig bwydydd naturiol, wedi'u prosesu cyn lleied â phosibl. Gadewch i'ch babi gyffwrdd â'r bwyd a gwnewch y cyfnodau bwyta bwyd yn ddigwyddiad hapus. Gwnewch eich babi yn rhan o brydau bwyd gydag eraill pryd bynnag y mae hynny’n bosibl er mwyn iddyn nhw ddysgu trwy arsylwi ar eraill.

Mae pob babi yn wahanol; bydd rhai yn mwynhau bwyd o'r dechrau’n deg ac yn helpu eu hunain i fwyd yn syth. Bydd rhai yn bwyta sawl llwyaid o’r cychwyn tra bydd eraill yn cymryd mwy o amser i ymgyfarwyddo â bwydydd newydd.

Yn yr oedran yma, llaeth o’r fron neu laeth fformiwla sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r egni a'r maeth sydd ei angen ar eich babi. Bydd y bwyd a fwyteir yn cynyddu'n raddol dros yr wythnosau cyntaf.

7 - 9 mis

Mae'n debyg y byddwch yn sylwi bod eich babi yn yfed llai o laeth erbyn iddyn nhw gyrraedd yr oed yma wrth iddynt gynyddu’r bwyd maen nhw’n fwyta.  Dylai eich babi fod yn bwyta amrywiaeth o fwydydd wedi'u stwnshio neu wedi eu torri'n fân yn ogystal â rhai bwydydd bys a bawd.

Dylai bwydydd bys a bawd fod yn feddal er mwyn i fabanod allu dechrau brathu darnau o fwyd yn eu ceg.

Peidiwch â phoeni am faint o fwyd sydd yn cael ei fwyta yn yr oedran yma. Dylech barhau i gynnig amrywiaeth o fwydydd syml heb eu prosesu. Peidiwch byth â gorfodi eich babi i fwyta, mae angen i fabanod ddysgu sut i fwyta yn union fel y maent yn dysgu a datblygu sgiliau eraill, ac mae'n cymryd amser. Mae powlen fach tua 12cm o led gyda dyfnder o 4cm yn ddigon ar gyfer pryd i faban yr oedran yma.

Ceisiwch gynnig brecwast, cinio a swper neu de gyda'r nos gyda llaeth o'r fron neu laeth fformiwla i ddilyn, er mwyn sefydlu trefn bwyd rheolaidd.

10 - 12 mis

Erbyn hyn bydd eich babi yn bwyta amrywiaeth o fwydydd wedi'u torri'n fân a dylid cynnig 3 phryd y dydd iddyn nhw. Bydd rhoi llaeth o’r fron neu laeth fformiwla tua 3 gwaith y dydd yn dilyn neu rhwng prydau yn parhau i ddigwydd.

Mae archwaeth babanod am fwyd yn amrywio ac felly hefyd eu hanghenion o ran egni. Fe'ch cynghorir i annog eich babi i fwyta yn ôl eu harchwaeth a pharhau i gynnig mwy o fwyd a bwydydd o liwiau amrywiol wrth i'ch babi dyfu er mwyn iddynt gael y maeth sydd ei angen arnynt. Cynigiwch amrywiaeth eang o flasau, lliwiau a mathau o fwyd.

Mae'r bwydydd bys a bawd y gellir eu cynnig yn yr oedran hwn yn llawer mwy amrywiol a gellir cynnwys bwydydd sydd angen eu cnoi a’u crensian yn ogystal â bwydydd meddal. Parhewch i ddefnyddio powlen fach neu blât bach i sicrhau nad ydych yn cynnig gormod o fwyd ar y tro.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am faint o fwyd i’w roi i’ch babi yn y flwyddyn gyntaf, ar y daflen hon y gellir ei lawrlwytho: Bwyta'n dda yn y flwyddyn gyntaf — First Steps Nutrition Trust

Gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau