Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno bwydydd solet – Pa fwyd i'w roi i'ch babi

Mae cychwyn cyflwyno bwyd solet yn gyfnod cyffrous iawn i chi a'ch babi. Mae amrywiaeth eang o liwiau a mathau o fwyd ar gael iddynt flasu. Gall cynnig bwydydd bys a bawd (fel llysiau wedi'u coginio'n feddal a’u torri’n stribedi) fod yn ffordd hwyliog o gyflwyno bwydydd solet.

Byddwch yn amyneddgar. Gall gymryd sawl ymgais (hyd at 20 gwaith i rai) cyn i'ch babi dderbyn bwydydd newydd, yn enwedig wrth iddynt dyfu’n hŷn. Efallai y byddan nhw’n gwneud ystumiau doniol, ond nid yw hyn yn golygu nad ydynt yn hoffi’r bwyd, maent yn dod i arfer â blasau a bwydydd sydd yn ddieithr iddyn nhw.

Gwyliwch Introducing Solids - Foods and Textures - YouTube  - clip fideo a gynhyrchwyd gan Adran Maeth a Deieteg Caerdydd a'r Fro.

6 mis

Mae amrywiaeth eang o fwydydd addas, heb eu prosesu, y gellir eu cyflwyno o 6 mis ymlaen. Mae’r rhain yn cynnwys:

Llysiau, tatws, grawnfwydydd plaen, codlysiau, cig, pysgod, toffw, cnau daear, hadau daear, a ffrwythau.

Beth am gynnig cymysgedd o fwydydd bys a bawd a phiwrî, gan symud ymlaen yn gyflym o biwrî llyfn at fwydydd sy'n cynnwys lympiau meddal. Mae babanod yn tueddu i ffafrio blasau melys, felly mae’n syniad da dechrau cynnig llysiau sy’n blasu’n fwy chwerw fel:

  • Brocoli
  • Blodfresych
  • Sbigoglys

Bydd hyn yn help iddynt fwynhau a dod i arfer â blasau cryfach ac amrywiaeth ehangach o fwydydd wrth iddynt fynd yn hŷn.

Ceisiwch osgoi ychwanegu unrhyw siwgr, halen neu felysyddion artiffisial at fwyd eich babi. Yn hytrach, defnyddiwch fwydydd sy’n naturiol felys fel ffrwythau neu lysiau melys i felysu, os oes angen.

Ceisiwch gyfyngu ar fwydydd babanod sydd wedi’u pecynnu’n barod cymaint â phosibl gan fod y rhain yn ddrud, fel arfer yn rhy felys ac yn ddi-flas a dydyn nhw ddim yn cynnig yr amrywiaeth ansoddol sydd angen ar eich babi er mwyn dod i arfer yn dda gyda bwydydd solet. Maent hefyd yn llai maethlon na'r bwydydd naturiol y gellir eu paratoi gartref.

Yr unig ddiodydd addas yw naill ai dŵr, llaeth o’r fron neu laeth fformiwla. Gellir cyflwyno cwpan ar gyfer diod o 6 mis oed ymlaen.

7-9 mis

Erbyn iddynt gyrraedd yr oedran yma, dylai eich babi fod yn gallu dygymod ag amrywiaeth o fwydydd stwnsh yn ogystal â bwydydd bys a bawd a bydd yn dechrau sefydlu patrwm rheolaidd o 3 phryd y dydd gyda diod o laeth rhwng prydau.

Gall brecwast fod yn bryd sydd yn seiliedig ar wyau, bwyd sydd yn cynnwys iogwrt, neu'n seiliedig ar rawnfwyd. Mae amser brecwast hefyd yn gyfle gwych i gael amrywiaeth o ffrwythau. Dylid cynnig pryd sawrus a bwyd bys a bawd sawrus i ginio ac i dê ac yna llaeth o’r fron neu laeth fformiwla ar ôl y pryd bwyd. Cofiwch gynnig bwydydd heb eu prosesu. Dylai prif brydau gynnwys protein ar ffurf naill ai pysgod, ffa, corbys, wyau neu gig tyner gyda llysiau meddal wedi’u coginio ynghyd â charbohydrad startsh (e.e. reis, pasta, tatws, tatws melys neu fara)

Gwnewch yn siŵr bod y bwyd wedi'i stwnshio neu ei dorri'n fân ac nad oes esgyrn, gwythiennau na unrhyw lympiau caled neu anodd eu cnoi yn y bwyd. Gallwch ychwanegu llaeth o’r fron neu fformiwla i wneud y bwyd yn haws i'w fwyta os oes angen.

Bydd babanod sy'n cael eu bwydo o'r fron yn parhau i fwydo ar alw ond bydd llai o laeth yn cael ei yfed wrth iddynt fwyta mwy o fwyd solet. Mwy na thebyg bydd babanod sy'n cael eu bwydo â fformiwla yn cael tua 600ml o laeth y dydd mewn cwpan neu botel.

10-12 mis

Erbyn hyn bydd eich babi'n gallu symud ymlaen i fwyta amrywiaeth o fwydydd wedi'u malu a'u torri'n fân a bydd yn parhau i fwyta 3 phryd y dydd yn ogystal â chymryd hyd at 3 diod o laeth yn ystod y dydd.

Yn ogystal â phryd sawrus a bwyd bys a bawd sawrus, a bwydydd fel yr awgrymwyd ar gyfer amser cinio a the i fabanod 7-9 mis oed, efallai y gellir cyflwyno pwdin erbyn hyn ar ôl prydau bwyd. Dylai pwdinau gynnwys ffrwythau, ac maent hefyd yn gyfle da i gynnig bwydydd llaeth fel iogwrt neu bwdin llaeth (fel cwstard, pwdin reis neu semolina).

Ceisiwch annog eich babi i yfed o gwpan agored wrth fwyta pryd bwyd. Mae’n bwysig annog babanod i fwydo’u hunain â’u bysedd ac i ddefnyddio llwy fel eu bod yn cael cyfle’n ddyddiol i ymarfer a dod yn annibynnol yn raddol yn ystod eu prydau bwyd.

Ceir rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ar gyfer cyflwyno bwydydd solet i'ch babi drwy ddilyn y ddolen hon: Bwydydd cyntaf eich babi - GIG.

Cofiwch, ni chynghorir bwyta bwydydd parod (masnachol) babanod yn aml:

  • Mae jariau / codenni bwyd babanod fel arfer yn ddrud
  • Maent yn tueddu i fod â llai o faeth, maent yn fwy melys a gallant fod yn ddi-flas o'u cymharu â phrydau cartref.
  • Mae bwydydd parod yn fwy llyfn na'r bwydydd rydych chi'n eu gwneud eich hun, felly beth am stwnsio neu dorri ychydig o'r hyn y mae gweddill y teulu yn ei fwynhau yn fân.

Mae gan First Steps Nutrition Trust ganllaw manwl ar fwyta'n dda yn y flwyddyn gyntaf - Bwyta'n dda yn y flwyddyn gyntaf -  First Steps Nutrition Trust

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol