Neidio i'r prif gynnwy

Chwalu'r Chwedlau

Bydd rhai rhieni yn teimlo bod eu babi yn barod am fwyd solet cyn iddyn nhw fod yn 6 mis oed. Efallai y bydd aelodau'r teulu a ffrindiau yn eich annog i ddechrau cynnig bwydydd solet, ond efallai na fydd eich babi yn barod am fwyd solet.

Dyma rai arwyddion sy'n aml yn cael eu camgymryd am arwydd fod babi’n barod am fwyd solet:

Crio

Mae’n well peidio â defnyddio bwyd i atal babi rhag crio. Efallai bod rhesymau eraill pam eu bod yn crio fel eisiau mynd i gysgu, bod yn rhy boeth/rhy oer neu ddim yn teimlo'n dda. Mae babi’n dysgu'n gyflym iawn y gellir defnyddio bwyd fel cysur. Cofleidio, magu a rhoi sylw yw’r ffordd orau i gysuro’ch babi ac atal crio.

Deffro yn y nos

Os yw eich babi wedi bod yn cysgu drwy’r nos ond yn sydyn mae’n dechrau deffro yn ystod y nos, nid yw hyn yn golygu bod eich babi’n llwglyd. Mae deffro yn y nos yn eithaf cyffredin ac yn rhywbeth normal i fabanod. Ni fydd dechrau rhoi bwydydd solet i’ch babi cyn iddo fod yn barod yn ei helpu i gysgu drwy'r nos. Os ydynt angen bwyd, cynigiwch ragor o laeth iddynt.

Cnoi a brathu pethau

Nid yw cnoi dwrn a brathu ar bethau o reidrwydd yn arwydd fod eich babi yn barod am fwyd solet. Gallai fod yna rhesymau eraill, megis torri dannedd. Siaradwch â'ch ymwelydd iechyd os ydych chi'n bryderus.

Ychwaneg o laeth

Weithiau ychydig rhagor o laeth yw'r cwbl sydd ei angen os yw babi’n newynog.

Mae babanod yn debygol o ddangos eu bod yn barod am fwyd solet ynghyd â llaeth o’r fron (neu laeth fformiwla) ar ôl tua 6 mis. Mae arwyddion allweddol eu bod yn barod yn cynnwys:

  • Gallu eistedd i fyny a dal eu pen yn gadarn
  • Gallu codi bwyd a'i symud tuag at eu ceg
  • Yn gallu llyncu bwyd (yn hytrach na’i wthio yn ôl allan gyda'u tafod).

Cofiwch fod pob babi yn wahanol. Fel gyda phob cam datblygiad, gall rhai gymryd mwy o amser nag eraill i ddysgu.

Mae dysgu trin bwyd yn y geg yn sgil newydd. Gellir cynnig amrywiaeth o fwydydd llyfn a bwydydd bys a bawd meddal o tua 6 mis oed ymlaen. Nid oes angen rhuthro ar hyd y cam hwn, gan ei bod yn bwysig cyflwyno blasau newydd mewn amgylchedd pleserus sydd yn rhydd o straen.

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol