Neidio i'r prif gynnwy

Ymgyrch SEXtember 2023 - Gwybod beth ydy beth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth ydy beth o ran eich iechyd rhywiol – dysgwch fwy am y gwasanaethau cyfeillgar, cwbl gyfrinachol sydd ar gael yn eich ardal chi yn rhad ac am ddim


Am ddim

Mae ein clinigau iechyd rhywiol yn rhad ac am ddim, ac yn agored i bawb. Gallwch gysylltu â ni i drefnu apwyntiad unrhyw bryd, heb orfod gweld eich meddyg teulu yn gyntaf.

Gallwch hefyd archebu pecyn profi a phostio am ddim i'w ddefnyddio gartref.

Cyfeillgar

Peidiwch â theimlo unrhyw gywilydd na phoeni am ymweld â'n clinigau, neu am siarad â ni. Mae aelodau’n tîm yn bobl agored ac yn barod i helpu, a byddant yn falch eich bod wedi cysylltu – beth bynnag yw’r rheswm. Rydyn ni yma i'ch helpu chi.

Cyfrinachol

Rydym yn agored i bawb, hyd yn oed os ydych o dan 16 mlwydd oed. Os byddwch yn ymweld â ni neu'n siarad â ni, ni fyddwn yn dweud wrth unrhyw un (oni bai bod angen i ni eich cadw chi, neu rywun arall, yn ddiogel rhag niwed).

Nid oes angen i chi fod yn cael rhyw ar hyn o bryd i gysylltu â ni am gymorth neu gefnogaeth.

 

Ein gwasanaethau

Rydym yn cynnig cymorth gydag atal cenhedlu a chyngor ar gael rhyw yn ddiogel, archwiliadau, profion a thriniaeth am ddim ar gyfer cyflyrau iechyd rhywiol cyffredin, gofal HIV, a meddyginiaethau i helpu i atal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV (gan gynnwys PrEP a PEP).

Gellir cael condomau am ddim mewn nifer o lefydd ar draws Gogledd Cymru trwy'r cynllun cerdyn-C. Gallwn siarad â chi am eich beichiogrwydd, a'ch cefnogi gyda dewisiadau beichiogrwydd.

Mae cymorth a gwasanaethau arbenigol hefyd ar gael i bobl sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol.

 

Clinigau yn eich ardal chi

Gall eich clinig iechyd rhywiol lleol, eich Meddyg Teulu neu’r Ganolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhywiol roi cymorth a chyngor manwl i chi.

Prawf cartref

Archebu pecyn profi i phostio gan Iechyd Rhywiol Cymru.

 

Gwybodaeth am ein hymgyrch

SEXtember yw ymgyrch flynyddol iechyd rhywiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd rhywiol yn ystod mis Medi. 

Nod yr ymgyrch yw:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau iechyd rhywiol lleol - STI/HIV, atal cenhedlu, erthylu, ymosodiad rhywiol
  • Annog pobl i gael profion STI a HIV
  • Lleihau beichiogrwydd digroeso drwy hyrwyddo atal cenhedlu da
  • Lledaenu hyrwyddo iechyd rhywiol i osgoi heintiau, lleihau trosglwyddiad, yn enwedig diagnosis hwyr o HIV
  • Lleihau’r stigma o gwmpas STI a HIV
  • Codi proffil gwasanaethau iechyd rhywiol

Mae ein hymgyrch wedi'i ddylunio i godi ymwybyddiaeth am wasanaethau iechyd rhyw yng Ngogledd Cymru.  Os ydych yn byw yn rhywle arall yng Nghymru, gallwch gael gwybodaeth am wasanaethau sy'n agos at le’r ydych yn byw ar GIG 111 Cymru.

Os hoffech wybodaeth bellach am ymgyrch SEXtember, cysylltwch â Dr Ushan Andrady, Arweinydd yr Ymgyrch, Ymgynghorydd Iechyd Rhywiol/HIV yn BCU.SextemberCampaign@wales.nhs.uk.

 

Ymgyrchoedd blaenorol