Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio

Cefnogaeth gan ein Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAs) a Chynghorwyr Trais Rhywiol Plant a Phobl Ifanc (CYPSVAs)

Gall Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAs) a Chynghorwyr Trais Rhywiol Plant a Phobl Ifanc (CYPSVAs) ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth i oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol yng Nghogledd Cymru, naill ai’n ddiweddar neu heb fed yn ddiweddar. Nid oes yn rhaid i chi fod yn y broses cyfiawnder troseddol i gael y cymorth hwn.

Mae Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAs) wedi’u hyfforddi’n arbennig i gefnogi oedolion sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol.

Mae Cynghorwyr Trais Rhywiol Plant a Phobl Ifanc (CYPSVAs) Children and Young People Sexual Violence Advisers (CYPSVAs) yn ISVAs sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol. 

Mae ISVAs a CYPSVAs yn annibynnol ar yr heddlu a gwasanaethau cyfiawnder troseddol. Maen nhw’n darparu cyngor diduedd a’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch helpu i ystyried eich opsiynau er mwyn i chi allu gwneud penderfyniadau sy’n iawn i chi. 

Gall ISVAs a CYPSVAs siarad â chi am eich lles emosiynol, darparu strategaethau ymdopi cadarnhaol i chi rhoi lle diogel a chyfrinachol i chi lle gallwch chi siarad am sut rydych chi’n teimlo. Darperir cymorth naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn a bydd ar lefel ac amlder sy’n briodol i’ch anghenion.

Nid yw ISVAs a CYPSVAs yn gwnselwyr ond meant yn weithwyr cymorth medrus a chymwys iawn. Mae pob un o’n ISVAs a CYPSVAs yn cwblhau hyfforddiant arbenigol a datblygiad proffesiynol parhaus.

Os mai cwnsela yr hoffech ei gael, gall ISVAs a CYPSVAs wneud atgyfeiriadau ar eich rhan, gan gynnwys cwnsela cyn-treial â naill ai’r Ganolfan Cymorth gyfer Trais a Chamdriniaeth Rywiol (Gogledd Cymru) neu Stepping Stones

Gall ein Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol hyfforddedig (ISVAs) a Chynghorwyr Trais Rhywiol Plant a Phobl Ifanc (CYPSVAs) hefyd helpu â:

  • Iechyd
  • Tai
  • Gwaith
  • Addysg
  • Budd-daliadau
  • Materion Cyfiawnder Troseddol

Mae tystiolaeth o gymhwysterau ISVA ar gael i’w gweld yn swyddfa SARC. Mae copïau o’n holl bolisïau a gweithdrefnau ISVA ar gael yn ein swyddfa SARC. Os hoffech eu gweld, siaradwch â’ch ISVA/CYPSVA neu anfonwch e-bost atom ar BCU.Amethyst@wales.nhs.uk

Atgyfeiriadau i Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Amethyst (SARC)

Cysylltwch â’n Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Amethyst i wneud atgyfeiriad i’n gwasanaeth ISVA neu CYPSVA.

Ein nod yw prosesu a chysylltu â phob atgyfeiriad newydd ymhen 5 diwrnod gwaith.

Os nad ydych yn barod i wneud cwyn i’r heddlu, gallwn eich helpu o hyd i gael mynediad at sgrinio meddygol, fforensig a rhywiol cyfrinachol.

Mynd trwy’r system Cyfiawnder Troseddol

Os ydych wedi gwneud cwyn ffurfiol i’r heddlu, gall ein Cynghorwyr trais Rhywiol Annibynnol a Chynghorwyr Trais Rhywiol Plant a Phobl Ifanc eich helpu i ddeall gwahanol agweddau ar y system cyfiawnder troseddol.

Os bydd eich achos yn mynd i’r llys, gall Cynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol a Chynghorydd Trais Rhywiol Plant a Phobl Ifanc helpu:

  • Cysylltu ag asiantaethau Cyfiawnder Troseddol ar eich rhan; gan gynnwys Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Eich arwain trwy gydol y broses Cyfiawnder Troseddol i helpu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi
  • Sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir os oes angen i chi fynychu’r llys
  • Cynorthwyo â hawliadau anafiadau i Awdurdod Digolledu Anafiadau Troseddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Helpu sicrhau bod eich hawliau’n cael eu bodloni

Archwiliadau meddygol fforensig

Os byddwch yn penderfynu dod i archwiliad meddygol fforensig, bydd angen i chi ddod â set sbâr gyda chi.

Mae’r archwiliad meddygol fforensig yn bwysig gan ein bod am ofalu am eich lles meddygol yn ogystal â chasglu tystiolaeth fforensig. Mae unrhyw samplau a gymerir yn cael eu casglu, eu labelu a’u storio’n ofalus a gellir eu defnyddio yn y llys fel tystiolaeth os penderfynwch fwrw ymlaen ag ymchwiliad troseddol.

Bydd meddyg/nyrs fforensig cymwys yn cynnal yr archwiliad gan sicrhau eich bod yn gyfforddus ac yn gwybod beth sy’n digwydd. Bydd gweithwyr argyfwng hefyd yn bresennol i helpu i’ch cefnogi. Gallwch ddod â pherson cymorth gyda chi a gallwch stopio’r archwiliad ar unrhyw bryd.

Bydd yr archwiliad meddygol fforensig yn cynnwys:

  • Gofyn am eich hanes meddygol blaenorol
  • Eich gwirio am anafiadau
  • Trafod dulliau atal genhedlu brys
  • Penderfynu gyda chi a oes angen unrhyw driniaeth i helpu lleihau’r tebygolrwydd y byddwch yn datblygu’r haint HIV neu Hepatitis B o achos yr ymosodiad hwn.
  • Penderfynu gyda chi pa samplau fforensig y dylid eu cymryd

Chi fydd ein prif bryder, a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael eich trin ag urddas a pharch bob amser.

Ni fydd y Meddyg/Nyrs yn gallu nodi a ydych wedi dioddef ymosodiad rhywiol ai peidio. Os penderfynwch adrodd yr ymosodiad, bydd y samplau fforensig yn cael eu rhoi i’r heddlu fel rhan o’r ymchwiliad troseddol a bydd yr heddlu’n storio’r samplau nes bod angen.

Archwiliad fforensig iechyd rhywiol a gwybodaeth

Ni ellir cynnal archwiliad iechyd rhywiol ar yr un pryd â’r archwiliad meddygol fforensig. Bydd angen i chi aros pythefnos ar ôl y digwyddiad gan ei bod yn cymryd amser i sefydlu a chanfod haint.

Mae Amethyst SARC yn cynnig Clinig Iechyd Rhywiol apwyntiad yn unig ar brynhawn dydd Llun i’r rhai sydd wedi dioddef trais rhywiol. Gallwch drefnu apwyntiad yn un o’r clinigau iechyd rhywiol isod:

  • Clinig Iechyd Rhywiol Amethyst SARC– 01492 805384 
  • Ysbyty Glan Clwyd –  Llinell apwyntiadau canolog - 03000 856000
  • Ysbyty Maelor Wrecsam - Llinell apwyntiadau canolog - 03000 856000
  • Ysbyty Gwynedd – Llinell apwyntiadau – 01248 384054

 

Fel arall, gallwch archebu pecyn profi iechyd rhywiol trwy’r post ar wefan Iechyd Rhywiol Cymru.