Rhaglen grŵp 12 wythnos a ddarperir gan Ddeietegydd Cofrestredig gyda chefnogaeth reolaidd am flwyddyn.
Gallwch ymuno â'n rhaglenni mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru neu gallwch ymuno â grwpiau rhithwir trwy gyswllt fideo o'ch cartref eich hun.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i roi'r arfau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i golli pwysau yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy, gan ganolbwyntio ar hybu iechyd a lles. Byddwch yn derbyn llawlyfr ac adnoddau defnyddiol a byddwn yn eich cefnogi i weithio tuag at yr hyn sy'n bwysig i chi.