Neidio i'r prif gynnwy

Helpa Fi i Fod yn Iach - Ar gyfer plant a phobl ifanc

Os yw eich plentyn rhwng 2 a 17 mlwydd oed ac yn cael trafferth gyda'i bwysau, mae gwasanaeth ar gael a allai fod o gymorth. Mae’r tîm ‘Helpa Fi i Fod yn Iach’ yn gweithio ar draws Gogledd Cymru ac maent yn cefnogi eich plentyn (a’r teulu cyfan) i wneud newidiadau bach a chynaliadwy i wella eu hiechyd. Mae’r rhaglen yn para am 12 mis, mae’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn ȃ pha fwydydd i’w dewis ac yn cefnogi eich plentyn i gynyddu ei lefelau ffitrwydd. Mae’r tîm yn cynnwys Meddyg Ymgynghorol, Deietegydd a Therapydd Galwedigaethol, yn ogystal ȃ gweithwyr allweddol a fydd yn cynnig cymorth ac arweiniad unigol drwy gydol y 12 mis.

Mae’r dull tîm yn dyner a chefnogol iawn ac mae’r plant/teuluoedd sydd eisoes wedi cwblhau’r rhaglen hon wedi rhannu’r sylwadau canlynol:

“Trwy adael i mi fy hun wneud y newidiadau hyn, mae wedi fy ngalluogi i ddeall beth mae'r newidiadau hyn yn ei wneud a sut maen nhw'n gwneud i mi deimlo'n llawer gwell amdanaf fi fy hun. Mae’r tîm yn gymwynasgar iawn wrth rannu eu gwybodaeth gyda mi, er mwyn fy ngalluogi i wneud y newidiadau hyn, ac maent yn dîm hollol anhygoel i weithio gyda nhw. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar iddynt o ran sut maen nhw wedi fy helpu i newid a cholli pwysau.,"

“Diolch o galon i’r holl dîm sydd wedi bod yn wych gyda xxxx. Nid yw’n hawdd i blentyn yn ei arddegau siarad am bynciau sensitif ac mae bob un ohonoch wedi rhoi cymaint o gefnogaeth iddo ac wedi gwneud iddo deimlo’n gartrefol. Fel rhiant, doeddwn i byth yn teimlo fy mod yn cael fy meirniadu, dysgais lawer o awgrymiadau defnyddiol ac rydw i’n teimlo fy mod wedi cael fy nghefnogi o’r diwrnod cyntaf. Diolch yn fawr iawn i chi.”

“Rwy’n teimlo bod y rhaglen wedi fy helpu’n fawr, rwy’n teimlo’n llawer iachach. Rwyf hefyd yn gallu rhedeg am fwy o amser heb golli fy ngwynt. Rwyf wrth fy modd gyda’r rhaglen am ei bod yn gymaint o hwyl edrych ar yr holl labeli gwahanol pan nad oeddem yn edrych rhyw lawer o’r blaen. Weithiau, mae fy mam a fy llysdad yn gwneud gêm o edrych ar y labeli wrth i ni siopa sy’n gwneud y profiad yn llawer o hwyl. Rydym wedi lleihau ein dognau, ac rydym hefyd wedi lleihau ein byrbrydau. Ond rydym dal yn cael ychydig o ddanteithion, ond rhai iach.“

Os ydych yn barod i helpu eich plentyn wneud newidiadau iach, siaradwch â’ch Meddyg Teulu, nyrs ysgol, neu unrhyw weithiwr proffesiynol iechyd arall sy'n trin eich plentyn i wirio a yw'n gymwys ac os felly, ei gyfeirio. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gwasanaeth hwn, cysylltwch ȃ ni ar

Rhif ffȏn: 03000 854420        E-bost: BCU.PaediatricWeightManagementLevel3@wales.nhs.uk