Neidio i'r prif gynnwy

Tim

Darganfyddodd Tim fod ffordd iach o fyw yn arwain yn naturiol at golli pwysau’n iach.

Beth wnaeth i chi gofrestru gyda Cymorth â'm Pwysau?

Roeddwn i sawl stôn dros bwysau a'r trymaf i mi fod erioed, roedd fy iechyd yn dirywio ac roeddwn i'n colli fy hyder.  Roeddwn i'n gwybod bod angen i mi wneud rhywbeth er mwyn cael rheolaeth ar fy mywyd. Gwelais hysbyseb am sut i gael cefnogaeth i golli pwysau yn y cyfryngau cymdeithasol ac roeddwn yn gallu cyfeirio fy hun. 

Ychydig o wythnosau'n ddiweddarach, daeth llythyr drwy'r post yn fy ngwahodd i "Raglen KindEating". Roedd grŵp ohonom o ogledd Cymru yn cyfarfod â deietegydd pwrpasol am raglen 12 wythnos drwy gynadledda ffôn.   

Beth oeddech chi'n ei feddwl o KindEating?

Roedd yn rhoi'r hyblygrwydd i mi fynychu cyfarfodydd o gysur fy nghartref fy hun.  Roedd y rhaglen yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau ac awgrymiadau ar gyfer bwyta'n well, newid arferion bwyta, gosod nod ar gyfer ymarfer corff, delio â'r mathau o fwydydd i'w prynu a'r ffactorau sy'n gwneud i ni orfwyta. 

Mae'r rhaglen wedi newid fy mywyd yn llwyr ac wedi rhoi'r arfau i mi fyw bywyd iachach, mwy egnïol.

A oedd unrhyw beth yn heriol?

Roedd bwyd yn fy rheoli i ond erbyn hyn rwy'n mwynhau bwyta bwyd iach, maethlon. Mae'r bwyd roeddwn i'n arfer ei fwyta bellach yn blasu fel halen, menyn coco a siwgr ac mae ffrwythau, llysiau a salad yn flasus iawn. 

Beth sydd wedi newid?

Rwy'n dal i fwyta 3 phryd y dydd ond rwy’n bwyta ffrwyth adeg byrbryd yn hytrach na bar mawr o siocled a phecyn o greision.  Rwy'n llwyddo i fwyta 8-10 dogn o ffrwythau a llysiau'r dydd yn hytrach na'r 2 ddogn yr wythnos roeddwn i'n arfer eu bwyta. 

Beth oeddech chi'n ei feddwl o KindEating?

Ar ddechrau'r rhaglen, roeddwn i'n meddwl bod angen i mi golli pwysau ac wedyn byddai popeth yn iawn. Ond erbyn hyn rwy'n falch fy mod yn gallu bwyta mewn ffordd wahanol, iachach a bod fy mhwysau'n gostwng yn naturiol. Dydy o ddim yn teimlo fel deiet, mae'n teimlo fy mod wedi cael cyfle newydd i fyw bywyd iach.

Beth wnaethoch chi ei ddysgu?

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, mae fy mhwysau'n dal i ostwng yn raddol ac rwy'n llwyddo gwneud 10,000 o gamau'r dydd tua 4 diwrnod yr wythnos.  Mae gen i gynlluniau hefyd i fynd i sesiynau yn y gampfa leol.

Sut mae eich bywyd erbyn hyn?

O ran fy iechyd, rwy'n cael llawer llai o gur yn fy mhen, mae fy asthma o dan fwy o reolaeth, mae'r anaf i fy ffêr a gefais bum mlynedd yn ôl yn llai poenus ac mae fy mhwysedd gwaed yn llawer is nag yr arferai fod.

Os ydych chi'n benderfynol o gael eich iechyd a lles dan reolaeth, dyma'r rhaglen i chi. Gall tîm Deieteg BIPBC roi'r holl arfau a'r gefnogaeth sydd eu hangen er mwyn i chi newid eich bywyd.