Neidio i'r prif gynnwy

Linda

Mae Linda, 41, yn rhannu ei barn ar raglen Bwyta Caredig.

Beth wnaeth i chi gofrestru ar gyfer Cymorth gyda fy Mhwysau?

Anfonodd y feddygfa neges at yr holl gleifion gyda rhestr o wasanaethau iechyd eraill a oedd ar gael. Un o'r rheiny oedd Cymorth gyda fy Mhwysau ac roedd yn amseru perffaith. Dim ond y bore hwnnw roeddwn i wedi bod yn y Feddygfa ac awgrymodd y meddyg yn ysgafn iawn y gallai colli ychydig o bwysau helpu gyda fy ngorbwysedd, colesterol ac asid adlif. I mi roedd yn edrych fel pwynt tyngedfennol. Os na fyddwn i'n newid nawr, byddwn i â risg o fod yn wirioneddol sâl. Hwn oedd y symbyliad roedd ei angen arnaf i gwblhau'r ffurflen hunan-gyfeirio a chofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Gwahoddwyd fi i'r rhaglen Bwyta Caredig wedi’i hwyluso gan Ddietegydd ac ymunais â rhaglen grŵp ar-lein.

Ydych chi wedi cael unrhyw brofiad gyda gwasanaethau rheoli pwysau o'r blaen?

Rydw i wedi rhoi cynnig arnyn nhw i gyd. Roeddwn i wedi gwneud yr holl glybiau colli pwysau, cyfri calorïau ac eraill. Yn flaenorol, roeddwn i wedi colli pwysau ond yna wedi magu pwysau eto. Roeddwn i'n gyrru llawer ac yn byw mewn gwesty oddi cartref ar gyfer gwaith rai dyddiau o’r wythnos. Roedd hi'n frechdannau yn y car ar deithiau hir a bwyd parod hawdd neu rywbeth o beiriant gwerthu.

Beth ydych chi'n ei feddwl o Bwyta Caredig?

Wnes i wirioneddol ei fwynhau ac ers i mi ei gwblhau, rydw i wedi bod yn ei argymell i ffrindiau a theulu. Roedd y cyfarfodydd yn wych ac yn gyfle da i gyfnewid syniadau. Yn ogystal, roedd hi'n dda i gwrdd â phobl yn straffaglu efo'r un peth â chi. Un ffactor bwysig oedd iddo roi i mi deimlad o atebolrwydd oherwydd gofynnwyd i mi e-bostio fy mhwysau i'r hwylusydd bob wythnos.

Beth wnaethoch chi ei ddysgu?

Y wers fwyaf oedd i fwyta mwy o lysiau. Rydw i erbyn hyn yn llenwi hanner fy mhlât gyda llysiau neu salad ac yn rhyfeddu pa mor llawn dwi'n teimlo, sy'n golygu nad ydw i'n ysu am fwydydd eraill. Yn ogystal, rydw i wedi dysgu bod bwyta rhywbeth afiach ddim ond yn 'blip' achlysurol, dydi o ddim yn golygu eich bod am syrthio nôl i hen arferion a magu’r pwysau eto. Nid yw’r cyfan yn ymwneud ag ymagwedd anhyblyg mwyach ond mae’n ymwneud â newid ffordd o fyw.

Beth sydd wedi newid?

Y newid mwyaf yw faint o ymarfer corff alla i ei wneud. Erbyn hyn, rydw i'n mynd i nofio yn rheolaidd ac yn loncian. Rydw i yng nghanol digwyddiad elusennol lle mae'n rhaid i mi redeg 1km bob dydd ym mis Tachwedd. Ar y dechrau cychwynnais gyda loncian ond fel yr oedd y pwysau yn gostwng, roeddwn i'n ei weld yn haws ac erbyn hyn, fe wna i 2km y rhan fwyaf o ddyddiau. I wneud y cyfan yn fwy diddorol, rydw i wedi dechrau gyrru i leoedd newydd ac yn rhedeg o gwmpas y fan honno. Yn fwyaf pwysig, rydw i wedi bod yn gyson ac rydw i’n ceisio gwneud peth ymarfer corff bob dydd.

Beth oedd yn hawdd i chi?

Y peth hawsaf oedd ymgorffori mwy o ffrwythau a llysiau i bopeth. Unwaith roedd gen i fy nghynllun ac yn gwybod beth oeddwn yn ei wneud, roedd hi'n syml i mi lenwi hanner y plât gyda salad neu lysiau. A hefyd dysgu mynd am ddewisiadau iachach sy'n syml ac yn rhywbeth y gwnaf i barhau i'w fwynhau yn syml. Roedd cadw at fy nodau SMART ar ymarfer corff hefyd yn llawer rhwyddach nag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl. Rhoddodd strwythur i mi ac roeddwn i'n gwneud amser ar ei gyfer.

Beth oedd yn heriol i chi?

Pan ddechreuais y rhaglen Bwyta Caredig roedd hi'n wyliau ysgol ac rydym yn mynd â'r plant allan i leoedd ar gyfer danteithion ac roedd llawer o demtasiwn. Roeddem ni'n mynd i leoedd megis mannau bwyd cyflym ac roedd hi'n anodd archebu iddyn nhw a ddim i mi. Ac roeddwn i wedi mynd i'r arfer o yfed rhai gwydreidiau o win ar y penwythnos ar ôl wythnos brysur. Er hynny, roedd yn syndod pa mor hawdd y gwnes i roi'r gorau i wneud hynny. Roedd y grwpiau yn wych, ond weithiau doedd hi ddim yn hawdd ar ddiwrnod gwaith i ymuno â phawb ar-lein, ond roedd hi bob amser yn werth chweil ac roeddwn i bob amser yn cymryd rhywbeth gan y grŵp. A dweud y gwir, roeddem ni ar wyliau gwersylla un wythnos ac fe wnes i hyd yn oed ymuno â phob un ar-lein o'r tu allan i'm pabell.

Sut mae eich bywyd erbyn hyn?

Yn gorfforol, fe alla i weld gwahaniaeth yn y drych ac rydw i'n teimlo'n well, yn fwy cyfforddus yn fy nillad a dw i'n gwisgo jîns nad ydw i wedi’u gwisgo ers blynyddoedd. Un peth y gwnes i sylwi ydy fy mod i'n treulio llawer mwy o amser yn adran y ffrwythau a'r llysiau yn yr archfarchnad. Nid yn unig hynny, ond rydw i'n creu mwy o'm prydau bwyd ar sail llysiau yn hytrach na dim ond dibynnu ar y cig fel prif gynheiliad. Mae fy ngholled pwysau wedi arafu ond dydw i ddim yn ennill pwysau. Ac rydw i'n dysgu mwynhau dilyn ffordd newydd o fyw. Yn ogystal mae gen i becyn cymorth gwych i'm helpu i ddelio ag unrhyw sialensau a allwn eu hwynebu yn y dyfodol. Beth oedd yn wych oedd i mi gerdded i fyny Moel Famau gyda fy merch ac roeddwn i'n iawn. Roedd yn serth, ond fe lwyddais i gyrraedd y copa a'r gorau oll, y diwrnod wedyn doeddwn i ddim mewn poen nac yn teimlo'n stiff.

Yn fwyaf pwysig, rwyf wedi gwneud fy hun yn flaenoriaeth ac yn teimlo'n well nag yr ydw i wedi ei wneud ers blynyddoedd.