Neidio i'r prif gynnwy

Clare

Mae Clare, 48, yn siarad ynghylch sut y gwnaeth hi i golli pwysau weithio iddi hi gyda chymorth y rhaglen Bwyta'n Garedig. 

Beth wnaeth i chi gofrestru gyda Cymorth gyda fy Mhwysau?

Roeddwn wedi cael poen yn fy mhen-glin ac roedd orthopaedeg eisiau i mi golli peth pwysau cyn i mi eu gweld nhw.

Ydych chi wedi cael unrhyw brofiad gyda gwasanaethau rheoli pwysau o'r blaen?

Rydw i wedi rhoi cynnig ar y clybiau colli pwysau arferol, ble collais bwysau, ond dydi o ddim yn gynaliadwy gyda fy ffordd i o fyw. Mae gen i fodolaeth brysur iawn, ac yn rhoi'r pwysau yn ôl arno eto oherwydd ei bod hi'n anodd iawn cadw ato a dim ond bwyta pethau penodol, pan mae'n rhaid i chi weithio sifftiau 24 awr.

Beth ydych chi'n feddwl o'r grŵp Bwyta Caredig wyneb yn wyneb?

Wnes i wir ei fwynhau o, yn syml oherwydd mae o i gyd am fwydydd pob dydd arferol a'i gyd-bwyso gyda'ch bywyd. Gall fy oriau gwaith fod yn hir iawn felly alla i ddim gor-gymhlethu pethau ac weithiau angen dod â phedwar pryd efo fi i'r gwaith. Hefyd gallwch fwyta pan rydych eisiau heb unrhyw gyfyngiadau ar wahân i wylio maint y dognau a bod yn ymwybodol o'r iechyd.

Beth wnaethoch chi ei ddysgu?

Dysgodd fi sut i drefnu prydau o gwmpas fy mywyd ac yn fwyaf pwysig, mae o i gyd yn ymwneud â gwneud dewisiadau iachach. Fe alla i ddal i fwynhau bwyd a chludfwyd, ond fe wna i ddewis yr opsiwn iachaf ar y fwydlen. Mae bob amser rhywbeth iachach i'w fwyta ar gael.

Beth sydd wedi newid?

Rydw i gymaint mwy ymwybodol o'r hyn sydd ar gael. Mae bob amser rhywbeth sy'n opsiwn iachach lle bynnag yr ewch. Er enghraifft, fe gaf i dortilla ciw iâr wedi ei grilio os ydyn ni'n mynd am fwyd cyflym, felly dydw i ddim yn teimlo fy mod wedi cael fy nghadael allan neu'n colli allan ar ddim byd. Mae’n ymwneud â’r dewis calorïau isel iachaf ar y fwydlen ac mae’n golygu y galla i ddal i fwynhau bwyta rhywbeth gyda'r teulu.

Beth oedd yn hawdd am y cyfan i chi?

Roedd yn hawdd iawn ei ddilyn gan nad oes unrhyw wir gyfyngiadau. Mae'r bwydydd i gyd yn fwydydd y byddwch eu bwyta beth bynnag felly mae’n ymwneud i raddau mwy â gwylio maint y dognau, y mathau o fwyd ac amseru. Gallwch chi wneud siopa bwyd arferol ac mae i gyd yn berthnasol i fywyd bob dydd.

Beth oedd yn heriol i chi?

Roedd trefnu prydau bwyd ar gyfer fy sifftiau hirach yn her, a gwneud yn siŵr bod gen i fwyd iachach fel y gallwn gael byrbryd yn y gwaith. Hefyd, roedd cymryd golwg fanwl arnoch chi eich hun a'r nodweddion neu arferion sydd gennych yn fwy emosiynol heriol. Fe weithiodd serch hynny oherwydd fe wnes i ddysgu prynu brand o fisgedi dydw i ddim yn eu hoffi i fy mab felly dydw i ddim yn gorfod poeni am eu bwyta fy hun.

Sut mae bywyd erbyn hyn?

Rydw i'n teimlo gymaint iachach ac yn hapus pan mae pobl yn sylwi fy mod i wedi colli pwysau. Mae wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol o barhau i weithio arno a cholli rhagor. Rydym i gyd yn mynd drosodd i Ibiza ym Medi ac rydw i'n teimlo'n well am fynd yno erbyn hyn. Mi wnes i feddwl am guddio fy hun ond mae'r pwysau rydw i wedi ei golli wedi cynyddu fy hyder ac rydw i'n hapusach gyda phwy ydw i. Roeddwn i’n meddwl hefyd na fyddwn i fyth yn mynd i'r gampfa, ond erbyn hyn rydw i ac wir yn ei fwynhau.