Neidio i'r prif gynnwy

Tra byddwch chi'n aros

Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod y sawl sy'n aros am apwyntiadau a thriniaeth wedi'u trefnu yn cael eu gweld cyn gyflymed â phosibl yn nhrefn blaenoriaeth glinigol.

Rydym yn gofyn i gleifion beidio cysylltu â ni, gan y bydd y gwasanaeth yn cysylltu â nhw'n uniongyrchol am eu hapwyntiad neu eu triniaeth.

Ymddiheurwn am yr arosiadau hirach y mae cleifion yn eu profi ond bydd yn cymryd cryn dipyn o amser i'n rhestrau aros ddychwelyd i lefelau cyn COVID ac yn anffodus, bydd llawer o gleifion yn parhau i wynebu arosiadau hir am driniaeth.

Lleihau ein rhestrau aros

Er mwyn helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol, rydym yn gweithio gyda darparwyr preifat SHS Partners i leihau ein rhestrau aros.

Mae cleifion Llawfeddygaeth Gyffredinol, Wroleg, y Glust, y Trwyn a'r Gwddf, y Genau a'r Wyneb a Gynaecoleg yn cael cynnig apwyntiad yn nhrefn blaenoriaeth glinigol a hyd arhosiad.

Rydym yn cynnig mwy o weithredoedd llawfeddygol orthopedig ar draws Gogledd Cymru er mwyn sicrhau bod y cleifion sydd wedi bod yn aros hiraf a'r cleifion sydd â'r anghenion clinigol mwyaf brys yn cael eu trin cyn gyflymed â phosibl. Rydym yn deall pa mor ofidus y gall hyn fod i'r sawl sy'n aros am lawdriniaeth a byddwn yn defnyddio ein capasiti i'r eithaf trwy gynyddu defnydd o'n theatrau llawdriniaethau yn Ysbyty Abergele. Mae hyn yn ogystal â'r nifer cynyddol o weithredoedd yr ydym yn eu cynnig yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Llandudno.

Tra byddwch chi'n aros

Yn ystod eich amser yn aros am apwyntiad neu driniaeth, efallai y byddwn yn cysylltu â chi o dro i dro er mwyn sicrhau bod dal angen i chi fod ar ein rhestr aros ac i sicrhau bod eich holl fanylion cyswllt yn gyfredol.

Mae rhai cleifion yn penderfynu cael triniaeth yn rhywle arall, neu'n symud y tu allan i'r ardal ac yn anghofio rhoi gwybod i ni am hynny. Trwy ddiweddaru ein system gyda'r wybodaeth hon, gallwn weld a thrin y cleifion y mae angen eu gweld yn gynt a lleihau amseroedd aros.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn, neges destun neu lythyr. Darllenwch y neges yn ofalus a lle y gofynnir i chi ymateb, gwnewch hynny'n brydlon gan y gallai peidio ymateb arwain at dynnu eich enw oddi ar y rhestr aros, mewn rhai achosion.

Os byddwch yn rhoi gwybod i ni yr hoffech barhau ar y rhestr aros, nid oes angen i chi gysylltu â ni. Caiff ein systemau ein diweddaru gyda'ch penderfyniad a chewch eich blaenoriaethu yn nhrefn brys clinigol a hyd arhosiad, a chewch gynnig apwyntiad neu ddyddiad ar gyfer eich triniaeth cyn gynted ag y bydd un ar gael.

I'ch cefnogi tra byddwch yn aros, efallai y byddech yn cael budd o un o'n cyrsiau'n ymwneud â hunanreoli symptomau sy'n para tri mis neu fwy. Mae gennym gyrsiau sy'n ymwneud â rheoli poen cronig, symptomau hirdymor, a byw'n dda wrth weithio; yn ogystal â chyrsiau sy'n ymwneud â chyflyrau hirdymor penodol, fel Diabetes, COPD, Ffibromyalgia a Methiant y Galon i enwi ond ychydig.  Os hoffech gael rhagor o fanylion, edrychwch ar Cyrsiau Iechyd a Lles - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru), neu ffoniwch ein tîm ar 03000 852280.

Asesiad iechyd personol ar-lein yw Ychwanegu at Fywyd sy'n rhoi llawer o wybodaeth werthfawr, wedi'i theilwra i chi a ddatblygwyd i'ch helpu i gael y gorau o'ch triniaeth GIG.  

Bydd cymryd camau nawr i wella eich iechyd corfforol a lles meddyliol nid yn unig yn lleihau’r risg o unrhyw gymhlethdodau yn ystod eich triniaeth, ond bydd hefyd o fudd i’ch adferiad a’ch iechyd hirdymor, gan wneud i chi deimlo’n well yn gynt. 

I gwblhau eich asesiad iechyd heddiw, ewch i: ychwaneguatfywyd.gig.cymru

Cytuno ar ddyddiad addas ar gyfer eich apwyntiad neu'ch triniaeth

 

Ffocws y broses trefnu yw cynnig dau ddyddiad y cytunir arnynt ar y ddwy ochr yn cynnwys rhybudd ymlaen llaw o dair wythnos ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a chleifion mewnol. Os ydych ar restr aros am apwyntiad claf allanol, byddwn naill ai'n cysylltu â chi i gytuno ar ddyddiad neu byddwch yn derbyn llythyr yn cynnig dyddiad i chi fynychu. Os nad yw'r dyddiad a gynigir yn gyfleus i chi, bydd camau clir yn ymwneud â sut i gysylltu â'r bwrdd iechyd i'w newid. Os na fyddwch yn ymateb i'r llythyr, byddwn yn cymryd yn ganiataol bod hyn yn gyfleus ar y ddwy ochr, ac os na fyddwch yn dod i'ch apwyntiad, gallai hyn arwain at dynnu eich enw oddi ar y rhestr aros. Os ydych ar un o'n rhestrau aros am driniaeth, byddwn yn eich ffonio i gytuno ar ddyddiad ac amser sy'n gyfleus i chi.

 

Os byddwch yn gwrthod dau gynnig rhesymol gyda rhybudd ymlaen llaw o dair wythnos ar gyfer dyddiad yr apwyntiad neu'r driniaeth, bydd hyn yn golygu y bydd eich amser aros naill ai'n dechrau o'r newydd, neu y bydd eich enw'n cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros.

 

Os byddwch yn penderfynu oedi eich triniaeth am resymau personol neu gymdeithasol ac yn datgan nad ydych ar gael, bydd eich amser aros yn cael ei addasu i adlewyrchu hyn:

 

  • pan fo'r cyfnod o ddiffyg argaeledd yn llai na phythefnos, ni ellir gwneud unrhyw addasiadau;
  • pan fo'r cyfnod o ddiffyg argaeledd yn para rhwng 2 a 8 wythnos, gellir gwneud unrhyw addasiadau am y cyfnod llawn na fyddwch ar gael.

 

Pan fydd y Bwrdd Iechyd wedi derbyn eich cyfeiriad, mae gofyn i chi sicrhau eich bod ar gael ar gyfer apwyntiadau, diagnosis a thriniaeth. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni nad ydych ar gael am gyfnod sy'n hirach nag wyth wythnos, byddwch yn dychwelyd at ofal yr unigolyn a'ch cyfeiriodd. Er mwyn sicrhau bod tynnu eich enw oddi ar y rhestr aros er eich lles pennaf ar lefel glinigol, caiff hyn ei drafod a'i gytuno gan eich meddyg ymgynghorol. Os bydd eich amser aros yn dechrau o'r newydd ac y cytunir y dylech barhau ar y rhestr aros, byddwch yn cael gwybod am hyn ar lafar neu'n ysgrifenedig.

 

Gwasanaeth atgoffa trwy neges destun 

 

Gall BIPBC gysylltu â chi gyda nodyn atgoffa ar gyfer eich apwyntiad cyntaf neu apwyntiad dilynol fel claf allanol saith niwrnod a 48 awr cyn i chi fynychu'r adran.

Gall y dulliau cyfathrebu fod trwy SMS (negeseuon testun), Neges Llais Rhyngweithiol (llinell dir), neu Alwadau gan Asiantau (galwadau atgoffa un i un). I optio i mewn i nodiadau atgoffa trwy neges destun, cliciwch

https://cutt.ly/text-reminders

 

 

Os byddwch yn derbyn nodyn atgoffa saith niwrnod, byddwch yn cael yr opsiwn i ganslo eich apwyntiad neu i'w aildrefnu.  Yn dilyn nodyn atgoffa 48 awr, byddwch yn cael canslo'n unig ac ni fyddwch yn cael yr opsiwn i aildrefnu trwy'r gwasanaeth hwn oherwydd y byr rybudd. Os na fyddwch yn ymateb i aildrefnu neu ganslo eich apwyntiad yn y cyfnod hwn, bydd disgwyl i chi fynd i'ch apwyntiad. Os na fyddwch yn mynychu, efallai y bydd eich enw'n cael ei dynnu ar y rhestr aros a chewch eich rhyddhau'n ôl at yr unigolyn a'ch cyfeiriodd.

 

Nid yw'r holl glinigau arbenigedd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth atgoffa.  Rydym yn ymrwymedig i ddarparu mynediad teg i'r gwasanaeth hwn ar gyfer ein cleifion ac rydym yn ymgysylltu â gwasanaethau er mwyn gwella lefelau mabwysiadu hyn lle bo'n briodol.  

 

 

Helpwch ni i osgoi gwastraffu amser gwerthfawr y GIG trwy:

  • Rhoi gwybod i ni os byddwch yn newid unrhyw rai o'ch manylion, fel enw, cyfeiriad a rhifau ffôn, neu os bydd unrhyw newid i'ch cyflwr. Efallai y byddwch yn penderfynu cael eich triniaeth yn rhywle arall, os felly yw hi, gofynnwn i chi gysylltu â ni i roi gwybod am hynny.
  • Bydd canslo eich apwyntiad neu driniaeth os na allwch fynychu, trwy ffonio’r rhif ffôn ar ben eich llythyr cadarnhau apwyntiad yn ein galluogi i gynnig yr apwyntiad i glaf arall sydd ar y rhestr aros. 
  • Os na fyddwch yn dod i'ch apwyntiadau heb roi unrhyw rybudd i'r ysbyty, efallai y caiff eich enw ei dynnu oddi ar y rhestr aros a chewch eich cyfeirio'n ôl at yr unigolyn a'ch cyfeiriodd.