Neidio i'r prif gynnwy

Eich brechlyn atgyfnerthu COVID-19

Bydd y bobl sy'n wynebu'r risg uchaf o salwch difrifol o COVID-19 yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu o fis Hydref 2024

Mae COVID-19 yn parhau i gylchredeg yng Nghymru, ac mae’n fwy tebygol o achosi salwch difrifol i bobl hŷn a phobl â chyflyrau iechyd sylfaenol.

Os ydych chi neu'ch anwyliaid yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthu, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ychwanegu at eich amddiffyniad. Mae brechlynnau COVID-19 yn gyflym ac yn ddiogel iawn, ac yn lleihau eich risg o salwch difrifol a chael eich derbyn i’r ysbyty.

 

Ydw i'n gymwys a sut mae cael atgyfnerthiad COVID-19?

Yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a Llywodraeth Cymru, bydd y grwpiau canlynol yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu COVID-19 y gaeaf hwn. Cliciwch ar y pennawd i ddysgu mwy am sut y gall aelodau o bob grŵp gael eu brechiad yma yng Ngogledd Cymru. 

Gweithwyr iechyd eraill, staff gofal a gofalwyr

Bydd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill, gofalwyr di-dâl 16 mlwydd oed a hŷn a phobl sy’n profi digartrefedd hefyd yn gallu cael brechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 o fis Hydref ymlaen.

Eleni, ni fydd y bobl yn y grwpiau hyn yn cael eu gwahodd i apwyntiadau brechu trwy gyfrwng llythyr na neges destun. Gall pobl yn y grwpiau hyn sy’n dymuno cael brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 drefnu apwyntiad drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004.

Rydym yn cynnig brechiad rhag y ffliw ar y GIG i bawb yn y grwpiau hyn o fis Hydref ymlaen, ac yn annog pawb sy’n gymwys i fanteisio ar y cynnig hwn i leihau’r risg o salwch difrifol a achosir gan ffliw y gaeaf hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer y brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gael gan Lywodraeth Cymru.

 

Rhagor o wybodaeth am frechlynnau gaeaf

 

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau am frechu COVID-19 neu i aildrefnu eich apwyntiad brechu, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004.

Cysylltwch â ni ymlaen llaw os hoffech aildrefnu apwyntiad yr ydych eisoes wedi'i dderbyn er mwyn caniatáu i aelodau cymwys o'ch teulu neu aelodau eraill o'ch cartref fynychu un o'n clinigau brechu ar yr un pryd.

Mae'r ganolfan gyswllt ar agor 8am-6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Rhagor o wybodaeth am ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol eraill am y rhaglen frechu COVID-19, e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.

 

Tocyn COVID y GIG

Mae Tocyn COVID y GIG bellach wedi cau. Gweler mwy o wybodaeth yma.