Neidio i'r prif gynnwy

Eich brechlyn atgyfnerthu COVID-19

Gall pobl sy'n wynebu'r perygl mwyaf o gael salwch difrifol yn sgil COVID-19 alw heibio i gael y brechlyn atgyfnerthu heb apwyntiad

Mae COVID-19 yn parhau i gylchredeg yng Nghymru, ac mae’n fwy tebygol o achosi salwch difrifol i bobl hŷn a phobl â chyflyrau iechyd sylfaenol.

Os ydych chi neu'ch anwyliaid yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthu, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ychwanegu at eich amddiffyniad. Mae brechlynnau COVID-19 yn gyflym ac yn ddiogel iawn, ac yn lleihau eich risg o salwch difrifol a chael eich derbyn i’r ysbyty.

 

 

Ydw i'n gymwys a sut mae cael atgyfnerthiad COVID-19?

Yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a Llywodraeth Cymru, bydd y grwpiau canlynol yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu COVID-19 y gaeaf hwn. 

 

Gweithwyr iechyd eraill, staff gofal a gofalwyr

Bydd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill, gofalwyr di-dâl 16 mlwydd oed a hŷn a phobl sy’n profi digartrefedd hefyd yn gallu cael brechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19. Eleni, ni fydd y bobl yn y grwpiau hyn yn cael eu gwahodd i apwyntiadau brechu trwy gyfrwng llythyr na neges destun.

Gall pobl yn y grwpiau hyn sy'n dymuno cael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 ymweld ag un o'n canolfannau brechu heb apwyntiad.
Gall pobl yn y grwpiau hyn sy'n dymuno trefnu apwyntiad gysylltu â Chanolfan Alwadau ein Gwasanaeth Brechu ar
03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.

Rydym yn cynnig brechiad rhag y ffliw ar y GIG i bawb yn y grwpiau hyn, ac yn annog pawb sy’n gymwys i fanteisio ar y cynnig hwn i leihau’r risg o salwch difrifol a achosir gan ffliw y gaeaf hwn. Sut i gael eich brechu rhag y ffliw.

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer y brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gael gan Lywodraeth Cymru.

 

Rhagor o wybodaeth am frechlynnau gaeaf

 

 

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau am frechu COVID-19 neu i aildrefnu eich apwyntiad brechu, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004.

Cysylltwch â ni ymlaen llaw os hoffech aildrefnu apwyntiad yr ydych eisoes wedi'i dderbyn er mwyn caniatáu i aelodau cymwys o'ch teulu neu aelodau eraill o'ch cartref fynychu un o'n clinigau brechu ar yr un pryd.

Mae'r ganolfan gyswllt ar agor 8am-6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
 

Oriau agor Nadolig a Blwyddyn Newydd Ganolfan Gyswllt Brechu

Dydd Llun Rhagfyr 23 – 8am i 6pm
Dydd Mawrth Rhagfyr 24 – 8am i 2pm
Dydd Mercher Rhagfyr 25 – ar gau
Dydd Iau Rhagfyr 26 – ar gau
Dydd Gwener Rhagfyr 27 – 8am i 4pm

Dydd Llun Rhagfyr 30 – 8am i 4pm
Dydd Mawrth Rhagfyr 31 – 8am i 2pm
Dydd Mercher Ionawr 1 – ar gau
Dydd Iau Ionawr 2 – 8am i 6pm
Dydd Gwener Ionawr 3 – 8am i 6pm

Rhagor o wybodaeth am ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol eraill am y rhaglen frechu COVID-19, e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.

 

Tocyn COVID y GIG

Mae Tocyn COVID y GIG bellach wedi cau. Gweler mwy o wybodaeth yma.