Mae oedolion a phobl hŷn yn gymwys i gael y brechiadau arferol canlynol:
Os ydych chi'n 50 oed neu'n hŷn neu os oes gennych chi gyflwr iechyd sy'n bodoli eisoes, rydych chi'n gymwys i gael brechlyn ffliw tymhorol y GIG am ddim. Mae’r brechlyn hwn yn helpu i'ch amddiffyn chi rhag y ffliw a'r heintiau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r ffliw. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau eraill o’r teulu a’r gymuned ehangach sy’n agored i niwed.
Os ydych chi'n gymwys, byddwch fel arfer, yn cael eich galw i apwyntiad yn eich meddygfa yn yr hydref. Fel arall, gallwch hawlio eich brechlyn ffliw tymhorol am ddim yn y rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol.
Mae pobl 65 oed neu hŷn neu’r rhai sydd â chyflwr iechyd gwaelodol hefyd yn gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr hydref am ddim.
Mae’r brechlyn niwmococol yn cael ei gynnig fel mater o drefn i bobl 65 oed a hŷn i helpu i’w hamddiffyn rhag haint niwmococol, a all achosi salwch difrifol fel sepsis a llid yr ymennydd.
Bydd y brechlyn fel arfer yn cael ei gynnig yn eich meddygfa.
Mae pobl hŷn yn fwy tuedduol o gael yr eryr, sef ail gychwyniad o'r feirws poenus sy'n cosi ac yn achosi brech yr ieir. Mewn canran fechan o achosion, mae'r eryr yn angheuol.
Cynnigir brechlyn yr eryr i unigolion sy'n 70 mlwydd oed ac yn hŷn (hyd at 80 oed) ac fel arfer caiff ei roi yn eich meddygfa.
Mae'r brechlyn HPV yn gallu helpu atal amrywiaeth o ganserau a dafadennau gwenerol.
Mae'n bosibl i ddynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion gael brechlyn HPV trwy'r gwasanaethau iechyd rhywioll nes iddynt fod yn 45 mlwydd oed.
Mae llawer o weithleoedd yn gofyn i weithwyr wneud yn siŵr eu bod wedi cael y brechiadau arferol i leihau'r risg o salwch neu afiechyd.
Mae rhai cyflogwyr yn gofyn i weithwyr gael brechiadau ychwanegol er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad. Efallai y bydd angen rhagor o frechiadau ar gyfer rhai swyddi risg uwch.
Mae cyngor ar y brechiadau a argymhellir ar gyfer eich swydd ar gael gan eich cyflogwr neu’ch adran iechyd galwedigaethol.
Mae’n bosibl y bydd angen brechiadau ychwanegol, neu ddosau ychwanegol o rai brechiadau ar rai unigolion sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes neu sy’n agored i risg uwch o glefyd, i’w hamddiffyn rhag mynd yn sâl.
Mae arweiniad a chymorth fesul achos ar gael i unigolion â chyflyrau sy'n bodoli eisoes neu ffactorau risg ychwanegol gan eich meddygfa neu dîm arbenigol.