Neidio i'r prif gynnwy

Pwy sy'n gymwys

Byddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun Cychwyn Iach os ydych yn feichiog ers 10 wythnos neu fwy neu os oes gennych o leiaf un plentyn dan 4 oed.

Rhaid i chi hefyd fod yn derbyn unrhyw un o'r canlynol:

  • Credyd Treth Plant (dim ond os yw incwm blynyddol eich teulu yn £16,190 neu lai)
  • Cymhorthdal ​​Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Pensiwn (sy'n cynnwys yr ychwanegiad plentyn)
  • Credyd Cynhwysol (dim ond os yw taliadau o gyflogaeth (wedi didyniadau) eich teulu yn £408 neu lai y mis)

Byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer Cychwyn Iach os:

  • ydych o dan 18 oed ac yn feichiog, hyd yn oed os nad ydych yn hawlio unrhyw fudd-daliadau
  • ydych yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA) a'ch bod yn feichiog ers 10 wythnos neu fwy
  • rydych chi neu'ch partner yn cael Credyd Treth Gwaith sy’n dod i ben. (Credyd Treth Gwaith sy'n dod i ben yw'r Credyd Treth Gwaith a gewch yn y 4 wythnos yn syth ar ôl i chi roi'r gorau i weithio am 16 awr neu fwy yr wythnos)

I wybod os yw’ch teulu’n ennill £408 neu lai y mis o gyflogaeth tra’n hawlio Credyd Cynhwysol, edrychwch ar eich ‘tâl net am y cyfnod hwn’ ar eich hysbysiad dyfarniad Credyd Cynhwysol misol.

Sut i wneud cais

Os ydych yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cychwyn Iach, gallwch wneud cais ar-lein. I wneud cais, bydd angen eich:

  • enw
  • cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • dyddiad geni arfaethedig y babi (os ydych yn feichiog)
  • llythyr dyfarnu budd-dal os ydych dros 18 (rhaid i chi nodi'r un wybodaeth ag sydd ar y llythyr hwn)

Os ydych chi’n derbyn talebau papur ar gyfer Cychwyn Iach ar hyn o bryd, bydd y rhain yn dod i ben ar ôl i chi lenwi’r ffurflen gais ar-lein. Gallwch barhau i ddefnyddio eich talebau Cychwyn Iach tan eu dyddiad dod i ben. Mae’r dyddiad dod i ben wedi'i argraffu ar eich talebau.

Gwiriwch os ydych yn gymwys

Gallwch wirio a ydych yn gymwys trwy wneud cais nawr. Defnyddiwch y gwasanaeth gwirio pa gymorth y gallech ei gael i dalu am gostau’r GIG ar-lein i weld a ydych yn gymwys i gael mwy o gymorth tuag at costau’r GIG.

Os nad ydych chi yn ddinesydd Prydeinig ond mae eich plentyn yn

Efallai’ch bod yn gymwys i dderbyn cerdyn Cychwyn Iach yn dibynnu ar eich statws mewnfudo. Gallwch gael cerdyn Cychwyn Iach os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol i chi:

Bydd eich trwydded breswylio biometrig (BRP) neu eich statws mewnfudo ar-lein yn dweud os na allwch hawlio arian cyhoeddus. Efallai y bydd gennych lythyr gan y Swyddfa Gartref ynglyn â hyn hefyd.

I dderbyn eich cerdyn Cychwyn Iach, gofynnwch am ffurflen gais drwy e-bost. Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost hwn dim ond os ydych yn meddwl na allwch hawlio arian cyhoeddus oherwydd eich statws mewnfudo.

Os ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd uchod ac yn dymuno gwneud cais am gerdyn Cychwyn Iach, anfonwch e-bost at Healthystartclaim@dhsc.gov.uk a bydd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cysylltu â chi i drafod y broses ymgeisio.

Cysylltwch â  Healthystartclaim@dhsc.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill.