Neidio i'r prif gynnwy

Camddefnyddio sylweddau

Gall cymryd cyffuriau neu sylweddau anghyfreithlon megis cannabis, cocên, a sylweddau seicoweithredol newydd (adnabyddir fel ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’) gyfrannu at broblemau ffrwythlondeb. Mae cymryd cyffuriau anghyfreithlon neu adloniadol hefyd yn gallu achosi problemau difrifol mewn beichiogrwydd.

Gall defnyddio cyffuriau anghyfreithlon cyn beichiogrwydd effeithio ar yr unigolyn yn cymryd y sylwedd, gall effeithio ar ffrwythlondeb, ac iechyd corfforol a meddyliol cyffredinol. Gall llawer o gyffuriau anghyfreithlon fod yn niweidiol i ddatblygiad ac ansawdd y sberm. Mae amlygiad gorfodol i nicotin a chyffuriau anghyfreithlon megis cannabis, cocên, heroin, ecstasi, sylweddau seicoweithredol newydd ac amffetaminau yn gallu achosi cymhlethdodau mewn beichiogrwydd yn y dyfodol. 

  • Mae ysmygu sigaréts yn ystod beichiogrwydd wedi ei gysylltu â phwysau geni isel, cynamserol a marwanedig, tyfiant gwael, a materion datblygiadol.
  • Mae defnydd y fam o sylweddau yn gysylltiedig â chymhlethdodau beichiogrwydd, pwysau geni isel, risg uwch o farwolaethau babanod, materion datblygiadol yn dilyn genedigaeth a syndrom ymatal newydd enedigol (cyflwr yn dilyn genedigaeth, pan fo llinyn y bogail wedi ei dorri, mae’r cyflenwad o gyffuriau i’r babi yn stopio yn sydyn a gall y babi ddangos arwyddion o ddiddyfnu corfforol).  
  • Cysylltir defnyddio cyffuriau neu sylweddau hefyd â phroblemau cymdeithasol ac iechyd eraill sy’n effeithio ar y fam a’r babi, yn cynnwys trais domestig, tlodi, di-gartrefedd, camdriniaeth rywiol, iechyd meddwl, a gofal iechyd gwael.

Lle i gael cefnogaeth 

Rydym yn deall y gall rhai pobl fod yn defnyddio cyffuriau anghyfreithlon am lawer o wahanol resymau ar adegau penodol yn eu bywydau, fodd bynnag, ceisiwch gyngor a chymorth gan eich gweithiwr iechyd proffesiynol os ydych yn defnyddio cyffuriau ac yn meddwl am feichiogi. Mae hi’n bwysig nad ydych yn stopio yn sydyn, gan y gallai hyn achosi problemau diddyfnu neu sgil effeithiau o stopio’r sylwedd rydych yn ei ddefnyddio. 

Os hoffech gymorth i stopio defnyddio sylweddau neu rydych ofn y gallech fod yn ddibynnol ar sylweddau gallwch siarad â’ch Meddyg Teulu neu ein Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau lleol.

Os ydych yn feichiog yna siaradwch â’ch bydwraig yn gyfrinachol gan eu bod yn gallu eich helpu i gael mynediad at y cymorth cywir. Gallwch hefyd siarad â’ch bydwraig neu Feddyg Teulu os ydych yn poeni y gallech fod yn dibynnu ar feddyginiaethau presgripsiwn.

Dolenni ac adnoddau defnyddiol

Mae cymorth a chefnogaeth gyfrinachol ar gael: