Neidio i'r prif gynnwy

Tafodrwym

Beth yw tafodrwym?

  • Tafodrwym yw darn ychwanegol o groen sy'n mynd oddi tan y tafod i lawr y geg.
  • Weithiau mae ynghlwm i flaen y tafod, weithiau ymhellach yn ôl o dan y tafod.
  • Mae'r rhan fwyaf o achosion tafodrwym yn hir a thenau iawn, mae rhai’n fwy trwchus ac yn dewach.
  • Credir bod tua hanner y babanod tafodrwym gyda rhywun arall yn y teulu sydd hefyd â thafodrwym.
  • Mae tafodrwym yn fwy cyffredin mewn bechgyn na merched.

A yw tafodrwym yn effeithio ar fabanod?

Awgrymodd ymchwil diweddar y gallai rhai babanod tafodrwym brofi trafferthion bwydo. Y rheswm am hyn yw bod tafod sy'n symud yn rhydd yn bwysig iawn ar gyfer cydio’n gywir yn y fron ac er mwyn tynnu llaeth yn effeithiol o'r fron yn ystod bwydo. Fodd bynnag, mae pob mam a babi yn wahanol a chaiff rhai eu heffeithio yn fwy gan dafodrwym nag eraill. Yr arwyddion all nodi trafferthion posibl yw:

I'r babi:

  • Trafferth cydio ar y fron a/neu drafferth aros yno unwaith wedi cydio ar y fron (yn ymddangos fel pe'n dal i “lithro i ffwrdd”)
  • Bwydo am gyfnodau hir iawn - bron iawn yn barhaus, o ganlyniad i'r babi yn methu cael ffîd dda.
  • Gall y babi fod yn ansefydlog iawn gan ymddangos yn llwglyd y rhan fwyaf o'r amser.
  • Gall ennill pwysau fod yn wael.
  • I'r fam:
  • Tethau poenus/ wedi eu niweidio
  • Fe all y cyflenwad llaeth edwino gan na all y babi dynnu’r llaeth yn addas o'r fron
  • Mastitis - yn aml yn digwydd fwy nag unwaith o ganlyniad i laeth yn cael ei adael yn y fron.

Efallai y bydd rhai mamau a babanod yn cael un o'r problemau hyn yn unig, gall eraill brofi mwy ohonynt a gall rhai fwydo heb unrhyw broblemau.

All tafodrwym gael ei ryddhau er mwyn lliniaru trafferthion bwydo?

Cyn i ni ddod yn gymdeithas bwydo â photel yn y ganrif ddiwethaf, roedd meddygon a bydwragedd yn gwybod efallai y gallai tafodrwym effeithio ar fwydo babi a byddent yn ei ryddhau er mwyn helpu'r fam a'r babi. Fel y daeth defnyddio potel yn fwy cyffredin, anghofiwyd am dafodrwym fel achos posibl o broblemau bwydo ar y fron. Dros y blynyddoedd diwethaf, cynhaliwyd astudiaethau yn y DU ac UDA sydd wedi dangos y gallai tafodrwym achosi problemau bwydo i rai babanod a bod ei ryddhau wedi cael effaith fuddiol iawn ar y trafferthion bwydo ar y fron a ddisgrifwyd.

Sut caiff tafodrwym ei drin?

Ym misoedd cynnar bywyd, rhyddheir tafodrwym drwy weithred syml sy'n cymryd ychydig eiliadau yn unig. Nid oes ar y babi angen anaesthetig, mae ychydig ddiferion o waed fel arfer a deuir â'r babi yn ôl at y fam yn syth ar gyfer bwydo ar y fron. Anaml iawn y bydd tafodrwym yn ail ffurfio ac angen llawdriniaeth bellach fel y mae'r plentyn yn mynd yn hŷn.

Os hoffech wybodaeth bellach ar dafodrwym neu'r weithred i'w ryddhau, trafodwch â'ch bydwraig neu ymwelydd iechyd. Gallant wneud apwyntiad i chi i fynychu'r clinig bwydo ar y fron am asesiad pellach os yw'r dafodrwym yn ymddangos fel pe bai'n achosi trafferthion bwydo ar y fron.