Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gall teulu gefnogi lles mam newydd

Mae mamau newydd angen cefnogaeth, sicrwydd a rhywun i wrando arnynt.

Gofalwch am y fam a'r babi newydd, cefnogwch y fam trwy wneud pethau ymarferol fel y gall ganolbwyntio ar y babi.

  • Byddwch yn barod i wrando a byddwch yn gefnogol os yw'r fam newydd yn teimlo'n emosiynol ac fel bod pethau'n mynd yn drech na hi
  • Cyfyngu ar ymwelwyr - gwnewch yn siŵr nad yw mam newydd yn cael ei llethu
  • Help gyda gofal babi - newid cewynnau, rhoi bath i'r babi a mwy. 
  • Glanhewch, coginiwch a golchwch y dillad
  • Gwnewch yn siŵr bod y fam newydd yn cael llawer o orffwys
  • Gafaelwch a rhowch fwythau i'r babi pan fydd angen i'r fam orffwys
  • Anogwch y fam newydd drwy ddweud wrthi ei bod yn gwneud yn wych!

Helpwch y fam i fod yn gyfforddus cyn dechrau bwydo, dewch â diodydd a byrbrydau iddi a gwnewch yn siŵr bod ganddi wydraid o ddŵr wrth law, gall bwydo ar y fron fod yn waith sychedig!