Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi eich teulu gyda bwydo ar y fron

Yma darperir y wybodaeth ddiweddaraf am fwydo ar y fron, a fydd yn rhoi hyder i chi gefnogi’r fam newydd yn ei phenderfyniad i fwydo ar y fron.

Mae llawer o fabanod yn cael eu bwydo â photel ac yn datblygu'n iawn, felly beth sydd mor dda am fwydo ar y fron?

Mae llawer o ymchwil dros y degawdau diwethaf wedi dangos i ni fod bwydo ar y fron yn bwysig iawn i iechyd babanod a phlant. Mae llaeth dynol yn trosglwyddo imiwnedd ac amddiffyniad pwysig i faban.

Mae babanod sy'n cael eu bwydo ar laeth dynol yn cael eu hamddiffyn rhag ecsema, asthma, heintiau fel gastro-enteritis, heintiau'r frest, y glust ac wrin. Mae hefyd yn ffactor amddiffynnol ar gyfer gordewdra a diabetes yn ystod plentyndod.

I ferched, mae bwydo ar y fron yn lleihau risg merch o ganser y fron a chanser yr ofari a gall helpu gyda bondio cynnar.

Sut mae bwydo ar y fron yn “gweithio”?

Bydd mam newydd fel arfer yn cynhyrchu mwy na digon o laeth ar gyfer ei babi ac nid oes angen “ychwanegiad” o laeth fformiwla na dŵr fel arfer.

Mae llaeth dynol yn newid trwy gydol y cyfnod bwydo: llaeth braster is ar y dechrau a llaeth hufennog braster uwch tua'r diwedd. Os yw'r babi wedi ymlynu'n dda ar y fron, bydd trosglwyddiad llaeth yn effeithiol ac ni ddylai'r fam brofi poen.

Fel arfer mae angen i fabi newydd fwydo tua 8-12 gwaith mewn 24 awr. Mae’n normal peidio â chael cyfnodau bwydo rheolaidd - peidiwch â disgwyl “bwydo pob 4 awr”.

Mae angen i fabanod ifanc fwydo gyda’r nos am wythnosau lawer ac mae ganddynt angen greddfol cryf i gael eu dal yn agos at eu rhieni - ni allwch ‘ddifetha’ babi trwy ei ddal neu ei gofleidio gormod!