- Atgoffwn ein plentyn o bwysigrwydd cymryd tro a chymodi ar ôl ffraeo.
- Rydym yn cefnogi ein plentyn i wneud ffrindiau ac yn ei helpu i ddeall cyffyrddiad priodol ac amhriodol.
- Rydym yn helpu ein plentyn i ddatblygu rhwydwaith cefnogol agos ac yn rhoi cyfleoedd iddo gadw mewn cysylltiad â’r bobl hynny.
- Rydym yn creu cyfleoedd i’n plentyn chwarae’n garedig ag eraill ac i ofyn am help os oes ei angen.
- Rydym yn creu cyfleoedd i’n plentyn ymddwyn yn briodol pan fydd allan yn y gymuned, a byddwn yn modelu ymddygiad da ein hunain.
Cysylltiadau â rhannau eraill o bum ffordd at les: