Neidio i'r prif gynnwy

4-7 mlwydd oed

Wrth i blant ddechrau yn yr ysgol mae eu byd yn ehangu ac maen nhw'n dechrau dod ychydig yn fwy annibynnol.  Fodd bynnag, maent yn dal i droi at rieni, teulu ac oedolion eraill y gellir ymddiried ynddynt i greu’r amodau i’w llesiant ffynnu. ​

Mae angen help ar blant i brofi ystod o wahanol leoliadau cymdeithasol a datblygu perthnasoedd gyda phobl newydd. ​  Mae chwarae'n parhau i fod yn bwysig iawn i'w dysgu ac fel ffordd o feithrin cyfeillgarwch a deall rheolau a ffiniau. ​

Yn yr oedran hwn, mae llawer o blant yn awyddus i helpu eraill ac archwilio eu byd. ​  Maen nhw'n chwilfrydig ac eisiau dysgu a phrofi pethau newydd. ​ Gallant wneud hyn trwy roi cynnig ar weithgareddau neu ddifyrrwch newydd, trwy ddefnyddio technoleg neu fod yn weithgar ym myd natur. ​  Maent yn mwynhau dysgu am wneud dewisiadau iach, sut i ofalu amdanynt eu hunain a rheoli emosiynau. 

Fel rhieni ac oedolion dibynadwy, mae gennych chi rôl bwysig i'w chwarae yn cefnogi eich plentyn i wneud y pethau hyn ac felly eu helpu i ffynnu. ​

Cliciwch isod i ddarganfod mwy.  Cofiwch fod un gweithgaredd, fel chwarae gyda’ch plentyn, yn aml yn golygu eich bod wedi cyflawni llawer o’r pum ffordd at les trwy un gweithgaredd. ​  Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys: ​

Nid oes angen gwario arian wrth gadw at y Pum Ffordd at Les.  Mae’n ymwneud yn fwy â bod yn bresennol yn yr eiliad (rhoi’r ffôn i’r ochr am ychydig funudau) a rhoi eich amser a’ch sylw i’ch plentyn. ​  Rhywbeth mor syml â Chysylltu â'ch plentyn drwy gael cwtsh ar y soffa wrth wylio'r teledu gyda'ch gilydd.   Neu efallai Bod yn Sylwgar o aderyn yn y goeden wrth i chi Fod yn Actif a cherdded i'r ysgol a Dal ati i Ddysgu gan eu bod yn rhannu ffaith ddiddorol gyda chi am yr aderyn. ​  Rhowch o'ch amser a'ch sylw trwy chwarae gêm fwrdd neu bobi gyda'ch gilydd. ​