Neidio i'r prif gynnwy

Trwy gefnogi eich plentyn i ddysgu sut i addasu i wahanol sefyllfaoedd wrth iddynt ddod yn fwy annibynnol a meithrin eu gwytnwch

  • Anogwn ein plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymgymryd â’i rôl mewn cymdeithas yn annibynnol, gan gymryd cyfrifoldeb cynyddol am fynd i'w weithgareddau ei hun. ​
  • Rydym yn cefnogi ein plentyn i gymysgu'n annibynnol ag eraill y tu allan i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant mewn ffordd ddiogel.
  • Rydym yn cefnogi ein plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddo yn annibynnol.
  • Rydym yn dangos parch tuag at ein hunain ac eraill ac yn gofalu am y pethau rydym yn berchen arnynt/yn eu defnyddio; ac annog ein plentyn i wneud hynny hefyd. ​
  • Rydym yn cefnogi ein plentyn i ddeall y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a chorfforol.
  • Rydym yn annog ein plentyn i fabwysiadu patrwm cysgu ac arferion cysgu iach a gwneud yr un peth ein hunain. ​

Cysylltiadau â rhannau eraill o bum ffordd at les: