Neidio i'r prif gynnwy

16-18 mlwydd oed

Wrth i'ch plentyn dyfu o gyfnod y glasoed i fod yn oedolyn, bydd angen eich arweiniad a'ch cymorth chi o hyd i gynnal ei les, gwneud penderfyniadau da a meithrin ei wytnwch. ​  Wrth iddynt ddod yn fwy annibynnol, helpwch nhw i gymryd cyfrifoldeb i ofalu am eu lles eu hunain, gan gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. ​ 

Anogwch nhw i ymgysylltu'n gadarnhaol â'u cymuned ac i adeiladu a chynnal perthnasoedd iach a pharchus. ​

Cliciwch isod i ddarganfod mwy. ​  Cofiwch y gall un gweithgaredd gyflawni llawer o'r pum ffordd at les yn aml. ​  Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys:

Nid oes angen gwario arian wrth gadw at y Pum Ffordd at Les.​  Yn y cyfnod hwn, gallwch gefnogi'ch plentyn trwy hyrwyddo sgiliau bywyd hanfodol a'i annog i aros yn chwilfrydig ac yn barod i ddysgu pethau newydd pan fydd yn oedolyn. ​ 

Anogwch eich plentyn i ddatblygu perthnasoedd iach a pharchus, ehangu ei rwydweithiau cymorth a Chysylltu â phobl sy'n ei gefnogi. ​ Cefnogwch nhw i barhau i Fod yn Actif trwy gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol maen nhw'n ei fwynhau. ​  Cefnogwch nhw i Ddal Ati i Ddysgu drwy ddysgu sgiliau bywyd allweddol iddyn nhw fel sut i reoli eu harian a gosod cyllidebau. ​ Anogwch nhw i Roi o'u hamser trwy wirfoddoli yn eu cymuned neu helpu ffrindiau neu deulu. ​ Byddwch yn Sylwgar o nodau a dyheadau eich plentyn ar gyfer y dyfodol a’u hannog. ​