- Byddwn yn modelu sut i chwarae'n dda a sut i ddangos caredigrwydd i eraill. Byddwn yn canmol ymddygiad positif.
- Byddwn yn rhoi cyfleoedd i’n plentyn gymdeithasu ac rydym yn modelu i'n plentyn sut i ryngweithio a chwarae’n dda a'i gefnogi i wneud hynny.
- Byddwn yn helpu ein plant i ddatrys unrhyw broblemau sydd ganddynt gydag eraill ac yn eu helpu i ddysgu a datblygu eu hymddygiad.
- Rydym yn rhoi cyfleoedd i’n plentyn ddatblygu sgiliau cymryd tro, bod yn gwrtais a chydweithio ag eraill.
- Rydym yn rhoi cyfleoedd i’n plentyn wneud ffrindiau newydd a modelu ymddygiad priodol.
Cysylltiadau â rhannau eraill o bum ffordd at les: