Neidio i'r prif gynnwy

0-3 mlwydd oed

Mae angen llawer o gefnogaeth ar fabanod a phlant bach gan eu rhieni, eu teulu ac oedolion eraill y gallant ymddiried ynddynt i greu amgylchedd lle gall eu llesiant ffynnu.

Gallwch wneud hyn trwy roi anogaeth a gofal, gan ddangos cariad ac anwyldeb iddynt, ymateb i giwiau babi a thrwy helpu eich plentyn i reoli ei emosiynau.

Wrth iddynt dyfu, mae chwarae yn rhoi cyfle i blant ifanc ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol, datblygu sgiliau echddygol a bod yn actif. ​  Mae hefyd yn caniatáu iddynt ddatblygu dealltwriaeth o reolau ac ymddygiad, yn ogystal â'r cyfle i gael hwyl gyda ffrindiau. ​

Er y gall y gweithredoedd hyn ddod yn naturiol i chi wrth dreulio amser gyda’ch plentyn, mae’n bwysig cydnabod yr effaith sylweddol y maent yn ei chael ar les meddyliol eich plentyn.

Cliciwch isod i ddarganfod mwy.  Cofiwch fod un gweithgaredd, fel chwarae gyda’ch plentyn, yn aml yn golygu eich bod wedi cyflawni llawer o’r pum ffordd at les trwy un gweithgaredd. ​  Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys:

Tra byddwch allan yn crwydro Byddwch yn Sylwgar; edrychwch ar y natur o'ch cwmpas a dywedwch sut mae'n gwneud i chi deimlo neu beth allwch chi ei weld neu ei glywed. ​  Ydy gweld blodau'r gwanwyn yn eich gwneud chi'n hapus?  Ydi clywed crensian dail yr hydref dan draed yn teimlo'n foddhaol? Cysylltwch â'ch plentyn; siaradwch â'ch plentyn a rhannwch y profiad gyda'ch plentyn. ​ Ydyn nhw'n mwynhau'r hwyl o Fod yn Actif trwy neidio mewn pyllau dŵr ar daith lawog - gadewch iddyn nhw Gysylltu â chi a rhannu eu llawenydd. ​ 

Pan fyddwch yn y parc gadewch i'ch plentyn Ddal Ati i  Ddysgu ac archwilio offer efallai nad yw wedi'i ddefnyddio o'r blaen tra'n ei gadw'n ddiogel.

Gadewch i'ch plentyn Roi drwy rannu ei greadigaethau â phobl sy'n bwysig iddo. ​  Wnaethon nhw ychydig o waith celf a chrefft mewn cylch chwarae lleol? Os felly, gadewch iddyn nhw roi eu campwaith i rywun fel y gallan nhw brofi sut deimlad yw rhoi rhywbeth i rywun sy'n annwyl iddynt. 

 

Mae rhagor o wybodaeth am sylfeini allweddol y pum ffordd at les ar gyfer plant 0-3 oed isod: