Neidio i'r prif gynnwy

Trwy ddatblygu hunan-barch, hyder ac annibyniaeth eich plentyn

  • Byddwn yn modelu sut i chwarae'n dda a sut i ddangos caredigrwydd i eraill. ​ Byddwn yn canmol ymddygiad positif.
  • Rydym yn annog ein plentyn yn frwd i fod yn agos at ychydig o oedolion eraill yr ymddiriedir ynddynt i ofalu amdano. ​
  • Byddwn yn rhoi cyfleoedd i’n plentyn gymdeithasu ac rydym yn modelu i'n plentyn sut i ryngweithio a chwarae’n dda a'i gefnogi i wneud hynny.​
  • Byddwn yn helpu ein plant i ddatrys unrhyw broblemau sydd ganddynt gydag eraill ac yn eu helpu i ddysgu a datblygu eu hymddygiad. ​
  • Rydym yn rhoi cyfleoedd i’n plentyn ddatblygu sgiliau cymryd tro, bod yn gwrtais a chydweithio ag eraill.
  • Rydym yn rhoi cyfleoedd i’n plentyn wneud ffrindiau newydd a modelu ymddygiad priodol.
  • Byddwn yn helpu ein plentyn i ddatblygu perthynas bositif ag aelodau o’n teulu ac oedolion eraill y gellir ymddiried ynddynt a chreu cyfleoedd ar gyfer hyn. ​

Cysylltiadau â rhannau eraill o bum ffordd at les: