Neidio i'r prif gynnwy

Oedolion

Pum peth syml gallwn ni gyd eu gwneud i roi hwb i'n lles.

Mae'r Pum Ffordd at Les yn set o gamau ymarferol gyda'r nod o wella ein hiechyd meddwl a'n lles. Fe'u datblygwyd gan y New Economics Foundation o dystiolaeth a gasglwyd yn y Prosiect Cyfalaf a Lles Meddwl Foresight (2008). 

Cawn ein hannog i feddwl am ba mor aml rydym yn cwblhau’r pum cam hyn – yn ddyddiol, yn wythnosol neu’n fisol. Meddyliwch am eich bywyd dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, a’r tro diwethaf i chi wneud y canlynol:

 

 

 

 

  1. Sylwi ar y pethau o’ch amgylch
  2. Cysylltu â rhywun sy’n bwysig i chi neu efallai rhywun nad ydych chi’n ei adnabod
  3. Gwneud gweithgarwch corfforol
  4. Dysgu rhywbeth newydd
  5. Rhoi rhywbeth o werth i rywun arall – gallai hyn olygu rhoi eich amser, neu rywbeth o werth materol

Yn aml, gall sefyllfaoedd o ddydd i ddydd ein caniatáu i wneud mwy nag un o’r Pum Ffordd yr un pryd.

Cliciwch ar y symbolau isod i ddarganfod rhagor am bob un o’r Pum Ffordd.