Neidio i'r prif gynnwy

Fideos

Heriodd y pandemig COVID-19 les meddwl pawb ac amlygodd bwysigrwydd y pum ffordd at les (cysylltu, dal ati i ddysgu, rhoi, bod yn actif a bod yn sylwgar), hyd yn oed os nad oeddent efallai yn sylweddoli ar y pryd mai dyna oedden nhw'n ei wneud.  Dyma rai astudiaethau achos o sut y llwyddodd rhai pobl leol o Ogledd Cymru i reoli effaith y pandemig ar eu lles meddyliol a rhai o’r pethau y maent wedi penderfynu parhau i’w wneud.​

Fe wnaeth gwirfoddoli trwy gydol y pandemig, a pharhau i weithio gartref, wneud i mi sylweddoli na allai neb osgoi effaith y pandemig ar ein hiechyd meddwl.​ Wrth i ni ddysgu i rannu mwy a bod yn agored gyda chydweithwyr, daeth mwy a mwy o bobl ynghyd i gefnogi ei gilydd ac i gydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl da. ​ Roedd pa mor unigryw oedd y sefyllfa yn golygu bod yn rhaid i bawb ohonom addasu ein ffordd o fyw a magu cadernid, a chynorthwyo'r naill a'r llall i ymdopi yn ystod y cyfnod clo. Wrth i bwysigrwydd iechyd meddwl da, ac effaith y cyfnod clo ar ein hiechyd meddwl gael eu dwyn i’r amlwg yn araf mewn trafodaethau teulu, ffrindiau a gwaith, cael eu cydnabod gan sefydliadau a’u hadrodd yn fwy cyhoeddus, dechreuasom gydnabod bod gan bob un ohonom un peth yn gyffredin, boed hwnnw'n alwr, yn gleient, yn wirfoddolwr neu’n gydweithiwr – mae ein hiechyd meddwl yn werthfawr a, nawr ein bod ni gyd wedi rhannu effaith y cyfnod clo, mae angen i ni barhau â’r trafodaethau a’r dadleuon iechyd meddwl a rhannu ein profiadau ein hunain a helpu eraill sy'n ei chael hi'n anodd. ” ​ Helen, Sir y Fflint

“Roedd y cyfnod clo yn beth positif iawn i'n teulu ni. Dw i'n gweithio 6 diwrnod yr wythnos ac mae gen i ddau o blant bach. Roedd methu â gweithio am gyfnod a gorfod byw bywyd arafach yn rhywbeth positif iawn ac yn rhywbeth yr wyf i a fy ngwraig wedi ceisio cadw ato. ​ Mae'n rhy hawdd llenwi ein bywydau gyda chynlluniau, gweithgareddau ac ati ond mae angen rhywfaint o amser arnom ni i gyd i ymlacio, i fod gyda'n gilydd a hyd yn oed i ddiflasu. ​ 

Yn dweud hynny, mae treulio amser o ansawdd gyda theulu a ffrindiau, ynghyd â'r gallu i roi cwtsh i bobl mor bwysig." ​ Matt, Sir y Fflint 

Weithiau, y pethau bach sy'n gweithio megis yr enghraifft hon o gysylltu: ​ “Fel teulu, fe wnaethon ni ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar gan ddefnyddio lego gyda’r plant – didoli blociau i bentyrrau lliwiau – roedd hynny'n nefoedd!” Stacey, Sir y Fflint

Pum Ffordd at Les Gogledd Cymru

 

Portia Woods - Athro Ysgol Gynradd

 

Elin Rhys - Cyngor Gwynedd

 

Pum Ffordd at Les - Becky Williams

 

Cefnogaeth a gwybodaeth bellach gan ein partneriaid ar gyfer eich lles meddwl.