Mae Gwasanaeth Prawf, Olrhain, Diogelu Betsi Cadwaladr yn gofyn i bobl ystyried cael prawf os oes ganddynt unrhyw un o restr ehangach o symptomau, ac mae'r rhain yn newydd, yn barhaus a / neu'n anarferol iddynt .
Y symptomau yw:
Symptomau tebyg i’r ffliw, nad ydynt yn cael eu hachosi gan gyflwr hysbys fel clefyd y gwair, gan gynnwys unrhyw un neu bob un o:
Mae'r rhain yn ogystal â'r tri symptom fwyaf cyffredin o Covid-19:
Mae timau olrhain cyswllt yng Nghymru wedi dynodi nad oes gan nifer sylweddol o bobl sy'n profi'n bositif am Covid-19 unrhyw un o'r tri phrif symptom yn ystod camau cynnar yr haint, neu efallai na fyddant byth yn datblygu'r symptomau hyn.
Mae'r holl symptomau ar y rhestr ehangach yn symptomau hysbys ar gyfer coronafirws. Fodd bynnag, nid yw'r ffaith bod gan rywun un o'r symptomau ehangach yn golygu bod ganddo Covid-19, ond wrth i nifer yr achosion ostwng, rydym yn ofalus iawn.
Ydy, mae'r rhestr newydd o symptomau yn berthnasol i blant ac oedolion a dylid dilyn yr un camau beth bynnag fo'ch oedran.
Eich dewis chi yw trefnu prawf ond os yw'ch plentyn yn sâl a Covid-19 yw'r achos yna mae cydnabod hyn yn gyflym yn eich helpu i gymryd camau i atal aelodau eraill o'ch cartref rhag dal y firws, ac yn lleihau'r risg y bydd eich plentyn yn ddiarwybod yn amlygu eraill fel neiniau a theidiau, gofalwyr, athrawon a ffrindiau, i Covid-19
Na, nid oes gofyn i unigolion sy'n cael prawf oherwydd y symptomau ehangach eraill hyn i ynysu wrth iddynt aros am ganlyniad eu prawf. Mae hyn yn cynnwys disgyblion ysgol neu blant mewn lleoliadau gofal plant a all barhau i fynychu ysgolion a lleoliadau gofal plant wrth iddynt aros am ganlyniad prawf. Fodd bynnag, dylai plant ac oedolion sydd â dolur rhydd a neu chwydu aros i ffwrdd o'r gwaith neu'r ysgol neu leoliadau gofal plant nes eu bod yn rhydd o symptomau am 48 awr, hyd yn oed os yw eu prawf Covid-19 yn negyddol.
Rhaid i bobl sydd ag un neu fwy o'r tri phrif symptom COVID-19 (peswch parhaus, gwres a / neu golli blas neu arogl) barhau i ddilyn arweiniad Llywodraeth Cymru ar brofi ac ynysu a rhaid iddynt hunan-ynysu gyda'u cartref wrth iddynt aros am ganlyniad eu prawf .
Dim ond ar gyfer pobl heb symptomau y defnyddir profion dyfais llif ochrol (LFD), fel y rhai a ddefnyddir gan staff yr ysgol. Ni ddylid eu defnyddio i brofi am Covid-19 mewn unrhyw un sydd â symptomau.
Nid yw cael y brechlyn yn newid canlyniad prawf Covid-19. Hyd yn oed os ydych chi wedi cael un neu ddau o frechiadau Covid-19, os oes gennych chi unrhyw un o'r symptomau ehangach dylech ystyried trefnu prawf. Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod unrhyw symptomau yn sgil-effaith y brechlyn.
Mae'r cynllun cymorth hunan-ynysu ar waith yng Nghymru ar gyfer pobl sy'n gorfod hunan-ynysu ac na allant weithio gartref. Mae'r cynllun hefyd ar gyfer rhieni a gofalwyr ar incwm isel, y mae eu plant yn hunan ynysu.
Os ydych wedi profi'n bositif am Covid-19 gallwch wneud cais am y gefnogaeth hon trwy eich cyngor lleol neu drwy ap Covid-19 y GIG.
Rydym yn awr yn cynnig profion i bawb a ddynodwyd fel cyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am coronafirws. Os yw hyn yn berthnasol i chi, bydd y tîm TTP yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
Pan fydd TTP yn dynodi pobl fel cyswllt, bydd y tîm yn cysylltu ac yn eu cynghori i hunan-ynysu ac i drefnu prawf. Yna gofynnir iddynt sefyll ail brawf hyd at saith diwrnod yn ddiweddarach. Bydd hyn yn ein helpu i adnabod mwy o bobl y mae coronafirws arnynt a'u cysylltiadau agos. Mae gwneud hyn yn golygu y gallwn helpu i atal y firws rhag lledaenu.
Os cysylltir â chi, cofiwch nad yw cael prawf yn ddewis arall yn lle hunan-ynysu. Os ydych chi wedi'ch adnabod fel cyswllt agos, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cwblhau'r 10 diwrnod o ynysu a chael y ddau brawf.
Hyd yn oed os ydych chi'n cael prawf negyddol, dylech barhau i ynysu am y 10 diwrnod llawn a pheidio â mynd yn ôl i'r gwaith neu'r ysgol.
Os ydych chi'n byw gyda rhywun sy'n cael ei brofi oherwydd bod ganddynt un o'r rhestr ehangach o symptomau nid oes angen i chi ynysu oni bai bod canlyniad y prawf yn bositif.
Fodd bynnag, os ydych chi'n byw gyda rhywun sy'n dangos un neu fwy o'r tri symptom clasurol o Covid-19 (gwres, peswch parhaus newydd neu golli / newid mewn blas ac arogl) yna mae'n rhaid i chi ynysu fel cartref wrth aros am y canlyniad.
Os oes gennych unrhyw symptomau Covid-19, naill ai un neu fwy o'r rhestr ehangach o symptomau neu un o fwy o'r tri phrif symptom, dylech drefnu prawf trwy'r GIG. Gallwch wneud hyn ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen ar y dudalen hon, neu drwy ffonio 119. Wrth drefnu ar-lein oherwydd y rhestr ehangach o symptomau, dylai preswylwyr Gogledd Cymru ddewis yr opsiwn “gofynnodd eich cyngor lleol i chi gael prawf.”
Os oes gan eich plentyn unrhyw un o dri phrif symptom Covid-19 - gwres, peswch parhaus newydd neu golli / newid yn y synnwyr o flas ac arogl - yna mae'n rhaid iddo /iddi gael prawf a rhaid i'r cartref cyfan hunan-ynysu hyd nes i chi gael y canlyniad.
Os oes gan eich plentyn unrhyw un o'r rhestr newydd o symptomau:
Fe'u hanogir i gael prawf. Nid oes angen i chi eu cadw gartref wrth i chi aros am ganlyniad y prawf. Fodd bynnag, yn gyffredinol mae'n syniad da cadw draw o'r gwaith, coleg, meithrinfa neu'r ysgol os ydych chi'n meddwl y gallech chi fod yn heintus ag unrhyw germ. Fodd bynnag, gall brodyr a chwiorydd fynd i'r ysgol neu leoliadau gofal plant eraill, fel meithrinfeydd, fel arfer.
Os yw'ch plentyn yn cael canlyniad prawf positif, beth bynnag fo'i symptomau, rhaid i'r cartref cyfan hunan-ynysu. Bydd y tîm Profi, Olrhain, Diogelu'n cysylltu â chi i gynghori beth i'w wneud nesaf.