Neidio i'r prif gynnwy

Hunangyfeirio yn achos COVID Hir

Os oes gennych unrhyw rai o'r symptomau canlynol, sicrhewch eich bod wedi gweld eich meddyg teulu cyn cyfeirio eich hun at y Gwasanaeth COVID Hir

I gyfeirio eich hun, mae'n bwysig eich bod yn cwblhau POB rhan o'r ffurflen yn glir.  Bydd yr holl wybodaeth a roddwch yn parhau i fod yn gyfrinachol a chaiff ei chadw'n ddiogel yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data a pholisïau a gweithdrefnau Llywodraethu Gwybodaeth y sefydliad. Trwy gwblhau'r cyfeiriad hwn, rydych yn cydsynio i'r Bwrdd Iechyd rannu gwybodaeth angenrheidiol a pherthnasol gyda'ch meddyg teulu neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol priodol eraill.

Gallwch gyfeirio eich hun yn uniongyrchol bellach at Wasanaeth COVID Hir BIPBC

Mae symptomau COVID Hir yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Gorflinder
  • Diffyg anadl
  • Problemau gyda'r cof a chanolbwyntio (meddwl pŵl)
  • Newidiadau i'r hwyliau (gofid neu iselder)
  • Poen yn y Frest
  • Crychguriadau’r Galon
  • Pendro
  • Poen
  • Tymheredd Uchel
Hunangyfeirio yn achos COVID Hir Dwyrain
Hunangyfeirio yn achos COVID Hir Gorllewin
Hunangyfeirio yn achos COVID Hir Canolog

I pobl yn Sir Dinbych a Sir Conwy