Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin am y Gwasanaeth Covid Hir

Mae pobl ar draws Gogledd Cymru sydd â symptomau Covid Hir yn gallu manteisio ar gymorth erbyn hyn trwy wasanaeth pwrpasol newydd. Dyma ychydig o gwestiynau cyffredin.

Gwasanaeth i oedolion ydym ni, ond gall cleifion yng Ngogledd Cymru fanteisio ar Wasanaeth Covid Hir Ysbyty Alder Hey. Cysylltwch â'ch meddyg teulu i drafod hyn ymhellach.

Bydd y claf yn derbyn asesiad cychwynnol gydag aelod o'r tîm amlddisgyblaethol.  Yna, bydd y clinigwyr yn datblygu cynllun ar y cyd â'r claf. Mae Gwasanaeth Covid Hir BIPBC yn darparu ystod o gymorth ac ymyriadau clinigol sydd wedi'u teilwra'n unigol i anghenion cleifion.  Mae'r rhain yn cynnwys: rhaglen fesul cam i reoli gorflinder, cymorth i gysgu'n well, ymarferion a strategaethau i reoli diffyg anadl, ymyriadau ar gyfer problemau "meddwl pŵl" fel anawsterau gyda'r cof ac wrth ganolbwyntio, adolygu a monitro meddyginiaeth, rheoli poen, cymorth ar gyfer hwyliau isel a gorbryder; a chymorth o ran y ffordd y mae Covid Hir yn effeithio ar rolau a chyfrifoldebau pobl yn eu bywydau ehangach yn y cartref ac yn y gwaith.

Gan ein bod yn dîm newydd a bach ar hyn o bryd sy'n gyfrifol am ardal ddaearyddol fawr, mae gennym restr aros oherwydd y nifer fawr o gyfeiriadau rydym wedi'u derbyn ers lansio'r gwasanaeth. Mae'n anodd rhoi gwybod am derfynau amser penodol ar hyn o bryd oherwydd recriwtio parhaus. Fodd bynnag, hoffem roi sicrwydd i chi ein bod yn gweithio i ehangu gweithlu'r gwasanaeth felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gyda ni, gan y byddwn yn gwneud ein gorau glas i gysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Gallwch gyfeirio eich hun yn uniongyrchol at y gwasanaeth. Fel arall, gallwch ofyn i'ch cais gael ei gyfeirio gan eich meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol.

Daw'r cyfeiriadau i'n blychau negeseuon sydd wedi'u rhannu rhwng y Dwyrain, y Canol neu'r Gorllewin lle cânt eu hychwanegu at ein cronfa ddata. Caiff y blychau negeseuon eu gwirio bob dydd gan ein cydlynwyr gweinyddol, cyn i'r cyfeiriad gael ei frysbennu gan glinigwyr o'r Tîm Amlddisgyblaethol i asesu p'un a yw'n gyfeiriad priodol a pha un a yw'n cyrraedd y meini prawf. Os tybir bod y cyfeiriad yn briodol, e.e. symptomau Covid Hir sydd wedi para'n hirach na 12 wythnos a bod yr unigolyn dan sylw dros 18 oed, caiff ei ychwanegu at ein system glinigol a chaiff slot ei drefnu yn y clinig agosaf sydd ar gael gyda'r clinigwr mwyaf priodol.  Mae ein tîm gweinyddol yn ffonio'r cleifion i drefnu apwyntiad clinig priodol, a chaiff llythyr ei anfon at y claf i gadarnhau hyn.

Mae'r gwasanaeth yn mynd rhagddo'n dda, agorodd i gyfeiriadau ar 2 Rhagfyr 2021.  Rhwng yr adeg honno a diwedd Ionawr 2022, rydym wedi derbyn dros 300 o gyfeiriadau. Hunangyfeiriadau yw'r mwyafrif o'r rhain, a daw rhyw 16% ohonynt gan Weithwyr Iechyd Proffesiynol. Mae gennym Dîm Amlddisgyblaethol sy'n cynnwys Uwch Ymarferwyr, Meddyg Teulu, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol, Ffisiotherapydd Arbenigol, ynghyd â swyddogaeth cymorth gweinyddol. Mae recriwtio'n parhau i ehangu'r tîm clinigol er mwyn caniatáu i ni gynnal mwy o glinigau ac i weld mwy o gleifion wrth i'r gwasanaeth ddatblygu. Rydym bellach yn darparu ein gwasanaeth mewn ardaloedd amrywiol ar draws Gogledd Cymru, gan osgoi'r angen i gleifion deithio pellterau hir i fanteisio ar ein gwasanaethau. O fis Chwefror, rydym yn disgwyl dechrau sesiynau ymyriadau grŵp.