Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn arolygiaeth annibynnol ac yn rheoleiddiwr i holl wasanaethau gofal iechyd Cymru.

Diben AGIC yw rhoi sicrwydd annibynnol a gwrthrychol ar ansawdd, diogelwch ac effeithiolrwydd gwasanaethau gofal iechyd gan roi argymhellion i sefydliadau gofal iechyd i hyrwyddo gwelliannau.

Yn ystod y flwyddyn, caiff y Bwrdd Iechyd ei arolygu drwy amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys:

  • Arolygiad Gofal Hanfodol ac Urddasol
  • Arolygiad Atal a Rheoli Heintiau
  • Adolygiad Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu
  • Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Amlygiad Meddygol) 2000

Gallwch ddod o hyd i gopi o'r adroddiadau a'r cynlluniau gweithredu diweddaraf ar dudalen gwefan AGIC drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

Wefan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC): https://agic.org.uk/?_ga=2.27984639.296902825.1591706856-136684909.1588706933

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
 

Alison White - Rheolwr Dros Dro Safonau ac Ansawdd
Ffôn: (01745) 448595 Estyniad 6367 neu dros
E-bost:  Alison.white@wales.nhs.uk