Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Ymchwiliad Holden

18/11/2021

Datganiad

Dywedodd Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch cyhoeddi Adroddiad Holden. Ein blaenoriaeth bob amser fu cytuno ar olygu gwybodaeth yn briodol er mwyn sicrhau nad oes modd adnabod staff a gyfrannodd ato, a sicrhau bod gan yr holl staff yr hyder i dynnu sylw at bryderon yn y dyfodol. Wedi dod i gytundeb gyda'r Comisiynydd Gwybodaeth, rydym yn cyhoeddi'r adroddiad wedi'i olygu yn llawn.

"Rydym yn cydnabod bod yr oedi o ran cyhoeddi'r adroddiad hwn wedi peri rhwystredigaeth i’r sawl sydd â diddordeb ynddo. Ar ôl myfyrio ynghylch y ffordd yr ymdriniwyd â hyn, mae'r Bwrdd wedi penderfynu y bydd adroddiadau o'r natur hon ar gael i'r cyhoedd yn y dyfodol, er budd didwylledd a thryloywder.

"Cymerwyd camau ac maent yn parhau i fod ar waith i gyflawni holl argymhellion Adroddiad Holden ac adroddwyd ar hyn yn gyhoeddus. Fodd bynnag, mae rhai materion, fel y ffordd rydym yn rheoli'r cymysgedd o gleifion hŷn, wedi bod yn anodd eu datrys, oherwydd dyluniad a chynllun Uned Hergest a'r adnoddau staffio sydd ynghlwm wrthi. Mae opsiynau i fynd i'r afael â hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

"Mae adroddiadau o arolygiadau heb eu cyhoeddi ymlaen llaw gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ymwneud ag Uned Hergest yn dangos bod safonau gofal, morâl staff a threfniadau arwain wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf.

"Er gwaethaf y gwelliannau hyn, mae gennym fwy o lawer o waith i'w wneud er mwyn caniatáu i'n staff ymroddedig gyflwyno'r gofal gorau posibl. Yn gyffredin â darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl y GIG ar draws y DU, rydym yn wynebu heriau sylweddol o ran niferoedd staffio, rheoli'r galw am welyau, sicrhau'r cymysgedd priodol o gleifion a delio ag effaith COVID-19.  

"Rydym yn ymrwymedig i weithio'n agos gyda'n cleifion, eu gofalwyr, ein staff a'n partneriaid i fynd i'r afael â'r heriau hyn ac i wella ymddiriedaeth a hyder o ran y gwasanaethau iechyd meddwl yr ydym yn eu darparu."