Neidio i'r prif gynnwy

Arfer gorau a dysgu

Mae bod yn arloesol, mabwysiadu arfer gorau a dysgu'n allweddol i wella a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel ar gyfer pobl Gogledd Cymru.

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid addysg ac ymchwil ar draws Cymru a Lloegr er mwyn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein staff i ddarparu a gwella gwasanaethau, yn ogystal ag arloesi ffyrdd newydd o weithio ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth.

Er enghraifft:

  • Bydd ein clinigwyr yn ceisio ymgorffori arfer gorau i'w gwaith clinigol, wedi'i lywio gan gyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid a allai gynnwys y rhai a gyhoeddir gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Mae nifer o glinigwyr yn gweithio gyda'r prifysgolion i ddarparu addysgu ac ymchwil, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn awyddus i adeiladu arno trwy ddatblygu'r Ysgol Feddygol newydd. Mae hyn yn enghraifft o sut rydym yn gweithio gyda phrifysgolion i sicrhau llwyddiant yn y tymor hirach o ran cadw clinigwyr sydd wedi'u hyfforddi'n dda ac sy'n llawn cymhelliant.
  • Rydym wedi cydweithio â chwmnïau ymchwil preifat ar bethau fel defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) ar gyfer diagnosteg yn achos canserau wrolegol a chanserau'r fron. Ni oedd y bwrdd iechyd cyntaf yn y DU i ddefnyddio'r feddalwedd hon ar lefel glinigol ac rydym yn arwain y ffordd yng Nghymru o ran ei chyflwyno i Fyrddau Iechyd eraill.
  • Mae ein clinig diagnostig cyflym ar gyfer canserau amhenodol wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan sicrhau bod modd cyfeirio pobl a chreu cynllun triniaeth o fewn cwpl o wythnosau. Mae hefyd wedi bod yn fuddiol i'r rhan helaethaf o'r rhai sy'n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth trwy ddiystyru canser fel diagnosis ac naill ai eu rhyddhau neu eu cyfeirio'n gyflymach at arbenigeddau eraill.