Neidio i'r prif gynnwy

Amseroedd Aros

Rydym yn gwybod bod pobl wedi teimlo'n rhwystredig ynghylch hyd yr amser y bu'n rhaid iddynt aros am apwyntiadau, gofal a thriniaeth a thros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gallu gwneud cynnydd mawr o ran lleihau rhai o'r amseroedd aros ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn aros am y cyfnodau hiraf. Byddwn yn parhau i flaenoriaethu amseroedd aros wrth i ni symud ymlaen. Rydym hefyd yn ymwybodol bod angen i ni wella o ran hysbysu pobl pan fyddant yn aros am driniaeth.

Mae'r holl bobl sydd wedi bod yn aros dros 156 o wythnosau bellach wedi derbyn dyddiad ar gyfer eu hapwyntiad cyntaf neu maent wedi dechrau triniaeth (mae rhai heriau'n parhau o fewn Orthodonteg sy'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd). 

Rydym wedi gweld lleihad o 52 y cant o ran y bobl sy'n aros 52 wythnos am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol (mae hyn yn hafal i 13,000 o bobl). 

Rydym wedi gweld lleihad o 42 y cant o ran y bobl sy'n aros 104 wythnos o gymharu â'r sefyllfa yr oeddem ynddi y llynedd (sy'n fwy na 6,000 o bobl). 

Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol o ran gofal wedi'i gynllunio, yn enwedig wrth edrych ar wasanaethau Orthopedig a ffyrdd newydd o weithio yn Abergele yn ogystal â'n hachos busnes cymeradwy ar gyfer hwb orthopedig yn Llandudno sy'n golygu y bydd mwy o bobl yn cael eu gweld yn gynt, ar safle pwrpasol a fydd ar gael am 50 wythnos o'r flwyddyn. Bydd hyn yn cyflawni rhan bwysig wrth leihau ein rhestrau aros. 

Mae nifer y cleifion sy'n aros mwy nag wyth wythnos am brawf diagnostig wedi parhau i ostwng yn sylweddol bob mis gyda 5,943 o bobl yn aros ym mis Tachwedd 2023 o gymharu â bron i 10,000 ym mis Tachwedd 2022. 

Mae ffigurau perfformiad GIG Cymru yn cael eu cyhoeddi ar wefan StatsCymru yma