Neidio i'r prif gynnwy

Rhian Watcyn Jones

Mae gyrfa Rhian wedi bod yn gyfan gwbl yn y gwasanaeth cyhoeddus: addysg, darlledu addysgol a’r gwasanaeth sifil yng Nghymru. Yn fwyaf diweddar, bu’n aelod annibynnol ar Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru a’i ragflaenydd Cyngor Gofal Cymru. Yn sgil cyfrifoldebau gofalu, daeth i ddeall mwy am ofal cymdeithasol, y gweithlu ac am yr heriau gwirioneddol sy’n wynebu’r sector. Roedd hi eisiau chwarae rhan ar ôl cael profiad o’r hyn sy’n ymddangos fel natur gamweithredol iechyd a gofal, wrth iddi helpu teulu i ddelio â dementia ac eiddilwch cynyddol.

Bu’n gadeirydd Pwyllgor Safonau a Rheoleiddio Cyngor Gofal Cymru, grŵp Rheoleiddio y panel a oedd yn cynghori Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar drefniadau cyfansoddi a llywodraethu corfforaethol Bwrdd newydd Gofal Cymdeithasol Cymru, a daeth yn Gadeirydd y Pwyllgor  Archwilio a Risg o’r cychwyn.

Mae Rhian yn siaradwr Cymraeg ac wedi byw a gweithio yng ngogledd, de a gorllewin Cymru. Mae hi’n cadeirio elusen, Hanes Llandoch ac yn aelod o Gyngor Cymuned Llandudoch. Mae’n hoff o gynllunio a mynd ar wyliau, ceir, nofio a siopa.