Neidio i'r prif gynnwy

Mike Parry

Mae Mike yn angerddol am gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda diddordeb penodol mewn ardaloedd gwledig, ac mae wedi bod yn aelod o Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid y Bwrdd Iechyd ers 2019, lle mae’n cynrychioli Un Llais Cymru.

Ar hyn o bryd, mae Mike yn Faer Pwllheli am yr eildro ac roedd yn Gynghorydd Dosbarth am 13 mlynedd. Mike oedd Cadeirydd olaf Cyngor Dosbarth Dwyfor, a ddaeth i ben ym 1996 gyda dyfodiad ad-drefnu llywodraeth leol. Gwasanaethodd hefyd fel Cyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru am bum mlynedd.

Ar ôl cwblhau prentisiaeth peirianneg drydanol mewn dwy orsaf ynni niwclear, aeth Mike ymlaen i weithio yn Oman. Ar ôl iddo ddychwelyd i’r DU, sefydlodd Mike fusnes contractio trydanol a siop ddillad. Cymhwysodd Mike hefyd fel Cynghorydd Busnes a gweithiodd i Asiantaeth Menter am bron i dair blynedd. Aeth ymlaen i weithio mewn Cymdeithas Bysgota ranbarthol a helpodd i sefydlu Ffederasiwn Cymdeithasau Pysgotwyr Cymru (WFFA), a daeth yn Ysgrifennydd Cenedlaethol iddynt. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n cynrychioli Cymru a mynychodd gyfarfodydd Cyngor Rhanbarthol Ewrop ar draws Ewrop. Hefyd, bu Mike yn hwyluso arddangosfeydd yn  Arddangosfeydd Bwyd Môr Ewrop ym Mrwsel ar ran diwydiant Pysgota Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru.

Mae Mike yn wreiddiol o Ynys Môn ac mae’n briod i gyn Fetron, sydd wedi dychwelyd i BIPBC i weithio ar sail rhan amser fel Ymchwilydd Clinigol COVID-19.