Neidio i'r prif gynnwy

Karen Balmer CPFA

Mae gan Karen, sy’n gyfrifydd gyda chymhwyster CIPFA, ac yn gyn-Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid yn y Gwasanaeth Iechyd, dros 35 mlynedd o brofiad o reolaeth ariannol, gan ddarparu arweinyddiaeth ariannol weithredol a strategol o fewn y sectorau cyhoeddus, preifat a nid-er-elw.  Mae’n cyfuno hyn gyda’i phrofiad helaeth o Adnoddau Dynol a llywodraethu i gefnogi ei rôl ar fwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac fel ymddiriedolwr i sefydliadau elusennol eraill.

Yn 2011, penodwyd Karen yn Brif Swyddog Gweithredol Groundwork Gogledd Cymru, elusen amgylcheddol sy’n gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â’r materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y mae cymunedau lleol yn eu hwynebu.

Mae Karen wedi gwasanaethu ar fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ers dros saith mlynedd, gyda’i chyfnod yn dod i ben ym mis Mai 2023.   Hi yw sylfaenydd ac ymddiriedolwr yr elusen feicio pob gallu Cycling 4 All.