Neidio i'r prif gynnwy

Gareth Williams

Ymddeolodd Gareth ym mis Mai 2021 ar ôl gwasanaethu am bron i bum mlynedd fel Cynghorydd Arbennig i'r Prif Weinidogion Carwyn Jones a Mark Drakeford yn Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae’n cael ei gadw ar sail rhan amser gan Lywodraeth Cymru fel Cadeirydd y Panel Arbenigol sy’n cefnogi’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Cyn ei benodi’n Gynghorydd Arbennig, bu Gareth yn Rheolwr Gyfarwyddwr Old Bell 3 Ltd. am 15 mlynedd, sef ymgynghoriaeth ymchwil a gwerthuso Gymreig hynod lwyddiannus a sefydlodd yn dilyn llwyddiant blaenorol mewn ymchwil polisïau economaidd a chymdeithasol, rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE a pholisi dysgu a sgiliau.

Gareth yw Cadeirydd Opera Canolbarth Cymru (MWO), cwmni opera teithiol sydd ag enw da am feithrin artistiaid ifanc, am ansawdd, fforddiadwyedd a hygyrchedd y perfformiadau ac am ddod ag opera i gymunedau ledled Cymru gyfan.

Mae Gareth hefyd wedi gwasanaethu ar fwrdd y Ludlow Assembly Rooms, canolfan aml-gelfyddyd yn Llwydlo, Swydd Amwythig. Bu’n Drysorydd rhwng 2008 a 2012 ac yn Gadeirydd rhwng 2016 a 2021. Yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd, bu’n arwain gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd yn ogystal â chynnal y sefydliad drwy’r argyfwng Covid.

Mae gan Gareth radd anrhydedd dosbarth cyntaf o Brifysgol Caergrawnt ac mae wedi bod yn Aelod o Gymdeithas Werthuso'r DU (UKES). Cyn sefydlu Old Bell 3, bu Gareth yn gweithio fel gwas sifil yn Whitehall, Stockholm a Chaerdydd, i Senedd Ewrop, fel Pennaeth Materion Ewropeaidd a Rhyngwladol Cyngor Dinas Birmingham ac fel Prif Gynghorydd Arbennig y Swyddfa Gymreig/Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar adeg creu'r Cynulliad Cenedlaethol.