Neidio i'r prif gynnwy

Fon Roberts

Mae Fôn Roberts wedi bod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn ers Mehefin 2020, ar ôl gweithio’n flaenorol fel Pennaeth y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd.

Mae Fôn yn dod â chyfoeth o brofiad i rôl Aelod Cyswllt, ar ôl gweithio mewn nifer o awdurdodau lleol ar draws Cymru a Lloegr. Mae ganddo 26 mlynedd o brofiad fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig a chofrestredig a’r hyn sy’n agos at ei galon yw cynnig y gofal a’r gwasanaethau gorau posibl i’r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Mae wedi goruchwylio’r gwaith o ddatblygu mentrau mewn partneriaeth ar lefel Genedlaethol, Rhanbarthol a Lleol i hybu lles plant, pobl ifanc ac oedolion lle bo angen gofal a chymorth, yn ogystal â gofalwyr a gofalwyr ifanc lle bo angen cymorth.