Neidio i'r prif gynnwy

Dr Caroline Turner

Roedd Caroline yn Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys rhwng 2019 a 2023, ac roedd ganddi swydd uwch yng Nghyngor Sir Ynys Môn cyn hynny. Cyn dychwelyd i lywodraeth leol yn 2015, treuliodd Caroline 16 mlynedd yn gweithio i Lywodraeth Cymru, gan ddal nifer o rolau polisi a chorfforaethol. Mae ganddi hanes o ddarparu gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus.

Fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol rhwng 2015 a 2019, roedd Caroline yn aelod o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Bu hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Rhaglen WCCIS Gogledd Cymru (a oruchwyliodd gyflwyno system TG integredig rhwng awdurdodau lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr). Bu Caroline hefyd yn gadeirydd Grŵp Gwybodaeth Busnes y Gwasanaethau Cymdeithasol ar ran Llywodraeth Cymru rhwng 2018 a 2019.

Yn ystod ei gyrfa gynnar, arbenigodd Caroline mewn cysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd, ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Polisi a Strategaeth yn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, treuliodd flwyddyn yn gweithio yng Nghanolfan Ewropeaidd Cymru ym Mrwsel, a hi oedd Prif Swyddog Ewropeaidd Cyngor Sir Gwynedd. Bu'n dysgu gwleidyddiaeth, gan gynnwys Integreiddio Ewropeaidd, fel Tiwtor ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac roedd ei PhD yn canolbwyntio ar Lywodraethu Aml-lefel.

Mae gan Caroline Radd mewn Llywodraeth o Polytechnig Birmingham, PhD o Brifysgol Aberystwyth a Gradd Meistr mewn Newid Gwasanaethau Cyhoeddus a Datblygu Sefydliadol o Brifysgol Birmingham.

Wedi'i geni, ei magu a'i haddysgu yn Ynys Môn, mae Caroline yn siaradwr Cymraeg rhugl. Mae hi'n Llywodraethwr mewn Ysgol Gynradd Gymraeg yng Nghaerffili.  Mae Caroline yn mwynhau teithio a rhedeg.