Neidio i'r prif gynnwy

Clare Budden

Mae gan Clare Budden brofiad gwaith sylweddol o fewn Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai, yng Nghymru a Lloegr. Ei rôl gyfredol yw fel Prif Weithredwr ClwydAlyn.  Clare yw Cadeirydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid y Bwrdd Iechyd.

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Tai sy’n berchen ar 6300 o dai ar draws Gogledd Cymru; ac sy’n cyflogi 750 aelod staff ac yn berchen ar ac yn rheoli Cartrefi Gofal a Thai Gofal Ychwanegol ar gyfer pobl hŷn, gwasanaethau tai a chefnogi ar gyfer pobl sydd wedi bod yn ddigartref a thai cymdeithasol a fforddiadwy i bobl sydd angen rhywle iawn i fyw.   Nod ClwydAlyn yw gweithio gydag eraill i drechu tlodi ac mae gan y Gymdeithas agwedd yn seiliedig ar werthoedd i’w holl waith.  

Ei phrofiad Awdurdod Lleol mwyaf diweddar oedd fel Prif Swyddog yng Nghyngor Sir y Fflint gyda chyfrifoldeb dros Dai, yr Economi ac Adfywio, Refeniw a Budd-daliadau a Gwasanaethau Cwsmer.  Tra roedd hi yno, sefydlodd y cwmni tai cyntaf dan berchenogaeth Awdurdod Lleol yng Nghymru gyda rhaglen adeiladau tai newydd sylweddol; ac arweiniodd raglen newid diwylliant a pherfformiad a drawsnewidiodd enw gwael blaenorol y cyngor o ran darparu tai, i fod wedi’i gydnabod fel y gorau yng Nghymru.  

Clare yw cadeirydd 2025; sy’n “symudiad cymdeithasol” o bobl o bob sector, sydd wedi dod ynghyd i frwydro yn erbyn anghydraddoldeb a ellir ei osgoi o fewn y sector iechyd a thai yng Ngogledd Cymru.  Yn ddiweddar bu’n aelod o Fwrdd Cynghori Trawsnewid Llywodraeth Cymru, a rhoddodd gyngor i Brif Weithredwr y GIG ar drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol; ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Cefnogi Tai Llywodraeth Cymru; (gan weithio i ddiweddu digartrefedd yng Nghymru).  Mae hi hefyd yn Is-Gadeirydd Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Mersi a’r Dyfrdwy.   

Mae hi’n gymrawd o’r Sefydliad Tai Siartredig ac mae ganddi gymhwyster ôl-radd mewn Tai.  

Mae Clare yn falch o fod yn Gymraes ac mae hi’n fam i bedwar; ac yn byw’n agos i’r lle cafodd ei magu yng Ngogledd Cymru.