Penodwyd Carol Shillabeer yn Brif Weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ym mis Mai 2023, a chymerodd yr awenau’n barhaol yn gynnar yn 2024. Mae hi’n nyrs gofrestredig gyda chefndir mewn uwch swyddi clinigol a rheolaethol yn y gwasanaethau menywod a phlant, iechyd meddwl a meddygaeth gyffredinol. Yn ogystal, mae gan Carol gefndir helaeth yn gweithio mewn partneriaeth a datblygu sefydliadol, ac mae hi wedi ymrwymo i weithio gyda staff, partneriaid a chymunedau i lunio a chyflawni canlyniadau gwell.
Cyn ymuno â BIPBC, roedd Carol Shillabeer yn Brif Weithredwr ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys ym Mhowys o 2015, ar ôl ymuno â’r Bwrdd Iechyd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio yn 2009.
Cyn hynny, roedd Carol yn Aelod ac yn Is-Gadeirydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Nghymru, sef rheoleiddiwr nyrsio a bydwreigiaeth y DU. Hi oedd Cadeirydd Rhaglen Frechu COVID-19 Cymru, a Chadeirydd y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a noddir gan y Llywodraeth sy’n arwain ar ddulliau o wella lles emosiynol ac iechyd meddwl plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Ar hyn o bryd Carol yw Prif Swyddog Gweithredol Arweiniol GIG Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl, Iechyd Menywod, Gofal Cymunedol a Gofal Cymhleth.
Mae gan Carol MSc mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd o Brifysgol Caerdydd ac mae'n gyn Ysgolor Arweinyddiaeth Sefydliad Florence Nightingale.