Neidio i'r prif gynnwy

Carol Shillabeer

Penodwyd Carol Shillabeer yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ym mis Mawrth 2015 ar ôl ymuno â’r bwrdd iechyd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio yn 2009. Mae hi’n nyrs gofrestredig gyda chefndir mewn uwch swyddi clinigol a rheolaethol yn y gwasanaethau merched a phlant, iechyd meddwl a meddygaeth gyffredinol. Mae gan Carol gefndir helaeth mewn gweithio mewn partneriaeth a datblygiad sefydliadol, ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda staff, partneriaid a chymunedau i lunio a chyflawni canlyniadau gwell.

Roedd Carol yn Aelod ac Is-Gadeirydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Nghymru, sef rheoleiddiwr nyrsio a bydwreigiaeth y DU. Hi oedd Cadeirydd Rhaglen Frechu COVID-19 Cymru, a Chadeirydd y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a noddir gan y Llywodraeth sy’n arwain ar ddulliau o wella lles emosiynol ac iechyd meddwl plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Ar hyn o bryd Carol yw Prif Swyddog Gweithredol Arweiniol GIG Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl, Iechyd Merched, Gofal Cymunedol a Gofal Cymhleth.

Mae gan Carol MSc mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd o Brifysgol Caerdydd ac mae'n gyn Ysgolor Arweinyddiaeth Sefydliad Florence Nightingale.