Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) yn adlewyrchu ymrwymiad y llywodraeth i annog awdurdodau cyhoeddus i fod yn fwy agored. Pwrpas y Ddeddf yw sicrhau bod pob rhan o’n cyrff cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, yn agored ac yn dryloyw, gan sicrhau bod mwy o wybodaeth am wasanaethau cyhoeddus ar gael yn hawdd.  

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd) yn cydnabod bod gan y cyhoedd hawl i wybod sut mae gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd yn cael eu trefnu a'u rhoi ar waith. Mae ganddynt yr hawl i wybod pa wasanaethau sy'n cael eu darparu, y safonau a ddisgwylir o’r gwasanaeth, y targedau sy'n cael eu gosod, a'r canlyniadau a gyflawnir, ynghyd â faint mae'n ei gostio i ddarparu'r gwasanaethau mae'n eu cynnig.

Sut i wneud cais

Mae gwybodaeth am wneud cais ar gael yma.

Wrth wneud cais am wybodaeth, byddwch mor glir â phosibl drwy nodi’r union wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i ymateb i’r cais. Cadarnhewch ym mha fformat y byddai'n well gennych dderbyn y wybodaeth, er enghraifft, taenlen.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn ymateb i geisiadau o fewn 20 diwrnod gwaith. Gall:

  • ddarparu'r wybodaeth y gofynnir amdani;
  • hysbysu'r ceisydd os nad yw'r wybodaeth yn cael ei chadw;
  • hysbysu'r ceisydd os yw corff cyhoeddus arall yn cadw'r wybodaeth;
  • cyhoeddi ‘Hysbysiad Ffioedd’ yn hysbysu’r ceisydd bod Ffioedd ynghlwm wrth y cais penodol hwnnw am wybodaeth;
  • gwrthod darparu'r wybodaeth, ac esbonio'r rhesymau pam;
  • hysbysu'r ceisydd bod angen mwy o amser ar y Bwrdd Iechyd i ystyried y prawf budd y cyhoedd, a chadarnhau pryd y dylid disgwyl ymateb

Cynllun Cyhoeddi

I helpu'r cyhoedd i gael gafael ar wybodaeth o'r fath ac i gydymffurfio â'r Ddeddf, mae'r Bwrdd Iechyd wedi llunio Cynllun Cyhoeddi. Mae hwn yn ganllaw cyflawn i'r wybodaeth mae'r Bwrdd Iechyd yn ei chyhoeddi'n arferol, i gydymffurfio â'r Cynllun Cyhoeddi Model a baratowyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth. 

Cofnod Datgeliadau

Er mwyn cynorthwyo’r cyhoedd, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cynhyrchu Cofnod Datgeliadau sy’n amlinellu’n fras y ceisiadau blaenorol a dderbyniwyd gan y sefydliad, ynghyd â’r ymatebion perthnasol a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Proses: Mae'r broses o ddewis yr hyn a gyhoeddwn yn cael ei gwneud drwy ystyried a ydym yn credu y gallai fod budd ehangach i'r cyhoedd, pan ofynnir am wybodaeth yn gyson, neu pan nad ydy'r wybodaeth ar gael yn rhywle arall yn barod. Bydd hyn yn cael ei wneud yn fisol er mwyn gallu ystyried unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i ymatebion a gyhoeddwyd (o ganlyniad i adolygiad mewnol). Ni fydd manylion personol fel enwau, cyfeiriadau ac ati yn cael eu cynnwys, er mwyn diogelu preifatrwydd.

Cwynion

Os nad ydych yn hapus â'r modd y trafodwyd eich cais gan y Bwrdd Iechyd, mae gennych hawl i gwyno trwy Gysylltu â Ni.

Bydd pob cwyn yn cael ei thrafod yn unol â 'Pholisi Cwynion Rhyddid Gwybodaeth’ a gweithdrefnau cysylltiedig y Bwrdd Iechyd. Os nad ydych yn fodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i'ch cwyn, mae gennych hawl wedyn i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.