Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad ynghylch Baich Anghymesur

Asesiad ynghylch Baich Anghymesur: Dogfennau PDF anhygyrch

Paratowyd: Ionawr 2025, i'w adolygu a'i ddiweddaru er mwyn adlewyrchu cynnydd erbyn diwedd Ch4 2025
Diweddariad: Diweddarwyd y dudalen hon erbyn diwedd Ch4 2025-2026. Bydd y diweddariad nesaf yn cael ei ddarparu tua diwedd Ch1 2025-2026.

O dan Reoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch. Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu y byddai bodloni rhai gofynion hygyrchedd yn achosi baich anghymesur i'n Bwrdd Iechyd.

Manylion y Bwrdd Iechyd

Enw: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae gennym ni gyllideb gwerth £1.87 biliwn a dros 19,000 o aelod o staff yn ein gweithlu. Mae'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am wella iechyd a lles poblogaeth o oddeutu 700,000 o bobl ledled chwe sir Gogledd Cymru (Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn).  Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydlynu gwaith 96 o bractisau meddygon teulu a gwasanaethau'r GIG sy'n cael eu darparu gan 78 o bractisau deintyddol ac orthodonteg, 70 o bractisau optometreg ac optegwyr a 145 o fferyllfeydd yng Ngogledd Cymru.

Asesiad o'r Baich Anghymesur: Dogfennau PDF anhygyrch

Y rheswm dros yr Asesiad hwn o Faich Anghymesur yw'r nifer sylweddol o ddogfennau PDF anhygyrch ar wefan y Bwrdd Iechyd. Cafodd y dogfennau hyn eu creu dros nifer o flynyddoedd gan amrywiaeth o awduron ledled y Bwrdd Iechyd, ac nid ydynt yn bodloni gofynion canllawiau hygyrchedd WCAG 2.2.

Yn ystod y 12 mis nesaf, byddwn yn rhoi proses newydd ar waith a fydd yn disodli’r dull presennol o gyhoeddi dogfennau ar y wefan hon, a byddwn yn blaenoriaethu ein hymdrechion i gyflawni hyn ledled y Bwrdd Iechyd. Byddwn yn sicrhau bod proses well i greu dogfennau hygyrch i’w rhannu’n fewnol ac yn allanol, ac yn fwy penodol i’r asesiad hwn – wrth gyhoeddi dogfennau ar ffurf PDF ar y wefan hon. Ar hyn o bryd, rydym yng nghamau cynnar y datblygiad hwn. 

Mae Tîm Cyfathrebu Digidol y Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli’r rhan fwyaf o’r wybodaeth HTML (tudalennau) ar y wefan hon.

Mae dwy agwedd i'r cynnwys sy'n cael ei gynhyrchu a'i gyhoeddi. Y gyntaf yw cynnwys sy'n hanfodol er mwyn darparu gwasanaeth, a ddatblygir gan ddefnyddio fformat HTML ar gyfer aelodau'r cyhoedd. Mae'r ail yn gynnwys a gaiff ei lunio gan ddefnyddio fformat PDF (dan y tab Amdanom Ni  yn bennaf, ac mae'r cynnwys hwnnw yn gorfforaethol neu'n dechnegol, a chaiff ei gyhoeddi at ddibenion tryloywder a/neu adrodd, er enghraifft:

  • Papurau'r Bwrdd a'r pwyllgorau
  • Cynlluniau, strategaethau sy'n cwmpasu'r Bwrdd Iechyd ac adroddiadau
  • Cyhoeddiadau yn ymwneud â llywodraethau

Yr effaith ar ddefnyddwyr

Rydym yn cydnabod y gallai rhai dogfennau a PDFs corfforaethol a thechnegol fod yn anodd eu darllen a'u deall. Am y tro, rydym yn cynnig manylion dulliau cysylltu ar gyfer y sawl sy'n ymweld â'r wefan i'w galluogi i ofyn am ragor o wybodaeth mewn fformat arall. Caiff y wybodaeth sy'n hanfodol i ddefnyddwyr o ran y gwasanaethau rydym yn eu darparu a sut i ddefnyddio'r gwasanaethau hynny ei datblygu'n rheolaidd gan y Tîm Cyfathrebu Digidol, fel prosiectau ar gyfer y wefan, gan ddefnyddio fformat HTML.

Sawl gwaith y gwelir tudalennau'r wefan bob mis ar gyfartaledd: 1 Ionawr - 31 Rhagfyr 2024:

  • Cyfarfodydd y Bwrdd Iechyd (cofnodion, papurau a phecynnau agendâu cyfarfodydd): 847
  • Cyfarfodydd pwyllgorau (cofnodion a phapurau): 1,069
  • Amdanom ni (cynlluniau/strategaethau ac adroddiadau): 661
  • Sawl gwaith y gwelir yr adrannau/tudalennau hyn yn y wefan bob mis (cyfanswm cyfunol): 2,557
  • Sawl gwaith y gwelir yr holl dudalennau ar y wefan hon bob mis: 239, 258

Cyfrifo'r Gyfran

Ar gyfartaledd, mae'r nifer o weithiau y gwelir adrannau cyfarfodydd y Bwrdd Iechyd, cyfarfodydd Pwyllgorau, ac Amdanom Ni bob mis yn gyfystyr ag oddeutu 1.07% o gyfanswm y nifer o weithiau y gwelir y wefan hon yn fisol.

Er bod yr adrannau sy'n cynnwys dogfennau corfforaethol a thechnegol yn bwysig, maent yn denu cyfran fechan o gyfanswm traffig y wefan. Mae'n debygol hefyd fod cyfran o'r traffig hwn yn deillio o gydweithwyr sy'n creu, yn darllen ac yn uwchlwytho dogfennau o'r fath i adran 'Amdanom Ni' y wefan, a chydweithwyr/rhanddeiliaid y bydd arnynt angen gwybodaeth dechnegol a chorfforaethol o'r fath, yn hytrach na'r cyhoedd.

Nod y cyfrifo yw ategu'r honiad na fyddai clustnodi adnoddau helaeth i sicrhau bod dogfennau PDF hanesyddol yn hygyrch yn sicrhau'r defnydd mwyaf effeithiol o amser ac adnoddau cyfyngedig, gan ystyried cwmpas ehangach yr hyn yr ydym yn dymuno'i gyflawni yn ystod y 12 mis nesaf yn sgil gweithredu dull newydd.

Camau a gymerir i wella hygyrchedd

Protocol ynghylch Cynnwys y Wefan a Chyfryngau Cymdeithasol

Ym mis Awst 2023, cyhoeddwyd Protocol perthnasol i'r Bwrdd Iechyd cyfan ynghylch Cynnwys y Wefan a'r Cyfryngau Cymdeithasol, ar BetsiNet (mewnrwyd staff) . Mae'r protocol hwn yn amlinellu prosesu eglur i gymeradwyo cynnwys i'w gyhoeddi ar y wefan hon, ac yn esbonio rolau a chyfrifoldebau yn ogystal â sut y dylid monitro a gwerthuso'r cynnwys. Mae'r protocol hwn yn diffinio sut ddylai'r wefan hon ddarparu gwybodaeth sy'n hygyrch, yn berthnasol, yn gywir ac yn cydymffurfio â gofynion.

Bellach, ni chyhoeddir dogfennau fformat PDF ar y wefan oni ystyrir eu bod yn ofynnol ac oni bydd gofyniad neu gyfarwyddyd cyfreithiol i'w cyhoeddi. Caiff gwybodaeth sy'n berthnasol i'r cyhoedd mewn dogfennau ei chyflwyno gan ddefnyddio fformat HTML a'i datblygu yn wybodaeth hygyrch a pherthnasol.

Proses newydd o lunio a chyhoeddi dogfennau hygyrch

Mae papur wedi'i lunio sy'n amlinellu ein cynllun i ddatblygu proses newydd at ddibenion creu a rheoli dogfennau hygyrch ledled y Bwrdd Iechyd (Tachwedd 2024), ac mae'n cael ei adolygu ar hyn o bryd (Chwefror 2025). Ar ôl cyflwyno’r papur hwn i’r cyfarwyddwyr gweithredol, sefydlir grŵp gorchwyl a gorffen gan yr adran Llywodraethu Corfforaethol er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn â chymorth y Tîm Cyfathrebu Digidol erbyn diwedd Ch4 2024/25. 

Mae'r opsiynau'n cynnwys:

  • System llyfrgell dogfennau newydd, ar wahân i wefan bresennol y Bwrdd Iechyd, a fydd yn fwy hylaw i awduron dogfennau ac yn fwy hygyrch i'r cyhoedd
  • Ailddatblygu gwefan bresennol y Bwrdd Iechyd

Dadansoddiad: I adolygu ac unioni'r anhawster presennol o ran y dogfennau PDF anhygyrch

Senario: Y Tîm Cyfathrebu Digidol yn adolygu, yn dileu ac yn gweithredu newidiadau i ddogfennau PDF anhygyrch

Dadansoddiad i gymharu Amser a Phobl

Er mwyn cynnig dadansoddiad manwl i gymharu amser a phobl, rydym wedi ystyried y ffactorau dilynol:

  1. Nifer y Dogfennau PDF Anhygyrch: Amcangyfrifwch gyfanswm y dogfennau PDF y bydd angen eu hadolygu a'u hunioni.
  2. Amser y Bydd ei Angen fesul PDF: Amcangyfrifwch faint o amser fydd ei angen ar gyfartaledd i adolygu ac unioni pob dogfen PDF: Bydd hyn yn cynnwys canfod anawsterau o ran hygyrchedd, gweithredu newidiadau gofynnol a chadarnhau'r newidiadau.
  3. Staff sydd ar gael: Pennwch nifer yr aelodau o'r staff sydd ar gael i weithio i gyflawni'r dasg hon a faint o oriau sydd ar gael iddynt.

Ar sail yr uchod:

  • Cyfanswm y Dogfennau PDF a nodwyd gan y System Rheoli Cynnwys (Mura): 500
  • Amser cyfartalog fesul dogfen PDF: 7.5 awr (byddai angen cryn dipyn o amser i ymdrin â dogfennau megis papurau'r Bwrdd a phecynnau agendâu wedi'u crynhoi)
  • Cyfanswm yr Amser Gofynnol: 500 dogfen PDF * 7.5 awr yr un = 3750 awr
  • Staff sydd ar gael: 2 gyflogai amser llawn (2 FTE)
  • Oriau Gwaith sydd ar gael Bob Wythnos Fesul FTE: 37.5 awr
  • Cyfanswm yr Oriau sydd Ar Gael bob Wythnos: 2 FTE * 37.5 awr = 75 awr

Yr hyn a honnir yn sgil y dadansoddiad

Yn ôl y dadansoddiad hwn, bydd 2 gyflogai amser llawn (2/3) yn y Tîm Cyfathrebu Digidol yn treulio oddeutu 50 wythnos yn adolygu ac yn unioni'r 500 dogfen PDF, gan gymryd y gallent neilltuo eu holl amser i ymgymryd â'r dasg hon a gan ystyried gallu’r tîm bychan hwn i gynnig cymorth adweithiol a rhagweithiol ynghylch pob sianel a phlatfform digidol, i holl wasanaethau'r GIG yng Ngogledd Cymru. Gan ystyried y baich gwaith presennol a chyfrifoldebau eraill, mae'r amserlen hon yn llai dichonol fyth, ac mae hynny'n ategu ymhellach fod angen proses newydd. I sicrhau cynnydd, wrth ddatblygu adnoddau sydd ar gael ledled y Bwrdd Iechyd, dylid canolbwyntio ar weithredu dull newydd yn hytrach nag unioni anawsterau hanesyddol, a dyna yw'r ddadl dros yr Asesiad hwn o Faich Anghymesur.

Cynlluniau at y dyfodol

Bydd y Tîm Cyfathrebu Digidol yn gwrthod ceisiadau i uwchlwytho dogfennau PDF, a byddant yn cynnig darparu trosolwg o'r wybodaeth hon gan ddefnyddio fformat HTML hygyrch os bydd hynny'n berthnasol. Bydd hynny'n digwydd oni bydd y ddogfen PDF yn hanfodol o ran busnes y Bwrdd, ac oni ellir ystyried unioni'r anawsterau hyn yn brydlon trwy’r broses newydd (er enghraifft, diwygio fformat papurau ein Bwrdd a'r dogfennau corfforaethol eraill y cyfeirir atynt).

Rydym yn blaenoriaethu gwaith i ddatblygu proses newydd i greu, rheoli a chyhoeddi dogfennau hygyrch. Bellach, mae gennym gyfuniad o sgiliau, dirnadaeth a gwybodaeth ledled yr holl gyfarwyddiaethau i allu bwrw ymlaen â dull newydd.

Costau a chyllideb

Caiff costau datrys anawsterau'r dogfennau PDF anhygyrch eu cyfrifo ar sail yr opsiwn a ffafrir ar ôl gwneud penderfyniad (Ch4 24/25). Yna, byddwn yn adolygu ein cyllideb a'n hadnoddau er mwyn nodi cyfleoedd i fynd i'r afael â hygyrchedd ein dogfennau PDF. Byddwn hefyd yn archwilio opsiynau ar y cyd â DHCW a phartneriaid eraill er mwyn canfod atebion cost effeithiol.

Manylion Cyswllt

Os byddwch yn cael trafferth cyrchu gwybodaeth a dogfennau PDF ar ein gwefan, a/neu os bydd arnoch angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol, e-bostiwch: bcu.digital@wales.nhs.uk. I gael cymorth i gyrchu papurau cyfarfodydd y Bwrdd a'r pwyllgorau, e-bostiwch: BCU.OBS@wales.nhs.uk.

Cymeradwyaeth gan swyddogion cyfrifol

Cafodd yr hawliad a'r asesiad hwn ei archwilio a'i gymeradwyo gan y cyfarwyddwyr canlynol ar 27 Ionawr 2025:

  • Cyfarwyddwr Partneriaethau, Ymgysylltu a Chyfathrebu