Mae dosbarth tri yn cynnwys gwybodaeth am:
Mae asesiadau o'r effaith ar ddiogelu data (DPIAs) yn ffordd o helpu sefydliadau i ddod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithiol o gydymffurfio â'u dyletswyddau diogelu data a diwallu disgwyliadau unigolion o ran preifatrwydd. Maen nhw'n gallu bod yn rhan ganolog o feddwl am breifatrwydd o'r cychwyn cyntaf.
Mae'r Rheoliad Cyffredinol newydd ar Ddiogelu Data (GDPR) yn nodi'r amgylchiadau pan fydd yn rhaid cynnal DPIA.
Bydd DPIA effeithiol yn galluogi sefydliadau i adnabod a datrys problemau'n gynnar, gan leihau'r costau cysylltiedig a'r difrod i enw da a allai ddigwydd fel arall.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef rheoleiddiwr y DU ar gyfer deddfwriaeth Diogelu Data, yn annog sefydliadau i sicrhau bod preifatrwydd a diogelu data yn ystyriaeth allweddol ar gam cynnar mewn unrhyw brosiect, a drwy gydol oes y prosiect. Er enghraifft wrth: