Rhwydwaith anffurfiol yw hwn rhwng partneriaid sy’n gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo cydraddoldeb. Mae cynrychiolaeth o’r sector cyhoeddus yn cynnwys: Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru ac Awdurdod yr Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r Rhwydwaith yn cynnal ymwybyddiaeth o’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn hwyluso ymgysylltiad ag ystod o unigolion yn cynnwys y rheiny sy’n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig ac mae’n cynhyrchu amryw o ganllawiau arfer da at ddefnydd cyrff y sector cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru.
Cynhaliodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru (NWPSEN) Ddigwyddiad Ymgysylltiad â Rhanddeiliaid ar y 24ain o Fai 2018: Adroddiad Digwyddiad Ymsgysylltiad â Rhanddeiliaid 24 Mai 2018.
Bydd ein Grŵp Rhanddeiliaid Cydraddoldeb (ESG) yn cyfarfod bob chwarter, ac mae’n cynnwys unigolion a grwpiau sy’n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig a chymunedau buddiant. Mae aelodau ein ESG yn hanu o gefndiroedd gwahanol a byddant yn rhannu eu profiadau bywyd i helpu i lywio a chraffu ar ein cynnydd yn erbyn Amcanion Cydraddoldeb y Bwrdd Iechyd a chynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i ganfod atebion.
I gael rhagor o fanylion, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu’r cyfarfod hwn, neu os ydych chi'n dymuno ychwanegu eitemau at yr agenda, cysylltwch a'r Tim Cydraddoldeb a Hawliau dynol.
Am ragor o fanylion neu os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r cyfarfod hwn, neu’n dymuno ychwanegu eitemau at yr agenda, cysylltwch â’r tîm Cydraddoldeb a Hawliau Dynol drwy ddychwelyd i’r brif dudalen Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Fel sefydliad rydym wedi ymrwymo i ymdrechu i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant - fel lle i weithio ac wrth ddarparu gwasanaethau.
Mae ein poblogaeth staff, a’n cymunedau, yn cynnwys pobl o lawer o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd, ac rydym eisiau i’n polisïau a’n harferion adlewyrchu hynny. Rydym am i’n gweithleoedd fod yn lleoedd lle mae staff yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu croesawu ac yn teimlo fel bod pobl yn gwrando arnynt ac fel sefydliad rydym yn gweithio i gryfhau ein hymgysylltiad yn barhaus. Mae rhan o'r gwaith hwn yn cynnwys datblygu a hyrwyddo rhwydweithiau staff ymhellach er mwyn sicrhau bod yr holl staff yn cael cyfle i leisio'u barn yn y sefydliad
Mae’r rhwydwaith wedi’i sefydlu gan staff o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig gyda’r nod o ddarparu fforwm i staff sy’n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig rannu eu barn a’u profiadau gyda’r sefydliad ehangach, a chyfrannu at ddatblygiad parhaus sefydliad gwybodus a chynhwysol.
Nod y rhwydwaith yw:
Yn ôl Adroddiad Byd WHO ar Anabledd, mae 15 y cant o boblogaeth y byd, neu fwy nag 1 biliwn o bobl, yn byw ag anabledd. O'r nifer hwn, amcangyfrifir bod 450 miliwn yn byw gyda chyflwr meddyliol neu niwrolegol.
Mae argyfwng byd-eang COVID-19 wedi dyfnhau anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes, gan ddatgelu graddau eithrio a thynnu sylw at y ffaith bod gwaith ar gynhwysiant anabledd yn hanfodol. Mae pobl ag anableddau yn un o’r grwpiau sydd wedi’u heithrio fwyaf yn ein cymdeithas ac maent ymhlith y rhai sydd wedi’u taro galetaf yn yr argyfwng hwn o ran marwolaethau.
Yn ystod y pandemig COVID-19, mae unigedd, datgysylltu, tarfu ar arferion a chyfyngu ar wasanaethau wedi effeithio’n fawr ar fywydau a llesiant meddwl pobl anabl ledled y byd.
Yn BIPBC mae gennym Gynllun Cydraddoldeb Strategol i sicrhau ein bod yn parhau i symud ymlaen ac yn datblygu tuag at ein hamcanion Cydraddoldeb. Mae Amcan Cydraddoldeb 6 yn nodi y byddwn yn cynyddu ymgysylltiad ag unigolion a grwpiau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig gwahanol yng Ngogledd Cymru. Mae Amcan 8 yn nodi y byddwn yn datblygu diwylliant cynhwysol. Fel rhan o'n cynllun i wneud hyn, rydym wedi hwyluso sefydlu rhwydwaith ar gyfer staff sy'n byw gyda chyflwr sy'n effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Gelwir y rhwydwaith yn rhwydwaith staff RespectAbility.
Nod y rhwydwaith yw:
Sefydlwyd ym mis Mawrth 2021 a’i nod yw:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a sefydliadau eraill y GIG wedi gweithio gyda’i gilydd yng Ngogledd Cymru i greu rhwydwaith gweithwyr cynhwysol i staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, a’i enw yw Celtic Pride.
Nodau’r rhwydwaith yw:
Os oes gennych ddiddordeb ac eisiau mwy o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan a helpu i wneud gwahaniaeth, cysylltwch â william.nichols@wales.nhs.uk yn gyfrinachol. Rydym yn croesawu diddordeb gan aelodau o’r staff a’r rheiny nad ydynt yn gweithio i sefydliadau’r GIG o bob cefndir ledled Gogledd Cymru.
I gael y newyddion diweddaraf, rydym ar Facebook yn: Celtic Pride a Twitter: @BCUCelticPride